Skip to main content

Atebion i Holiadur 1957 gan Y Gwas Bach

Disgrifiadau

Atebion i holiadur gan berson anhysbys a ddefnyddiodd yr ffugenw 'Y Gwas Bach' o Amlwch, Ynys Môn. Paratowyd yr holiadur gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.

Trawsgrifiad

 [MS 355_0001 ]

 

Gorffennaf 17, 1957

Enw: Y Gwas Bach

Cyferiaid: Amlwch

 

Beth oedd amser codi arferol? Hanner awr wedi pump y bore 

 

A godai pawb yr un amser? Na dim ond y gweision ar morynion 

 

A wneid unrhyw waith cyn brecwast? Glanhau a [pharrhir?]

 

Pa bryd oedd amswer brecwast? Am chwech y bore

 

Beth a fwyteid i frecwast? Te mewn powlen a bara haidd  

 

A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Dim ond y gweision ar morynion

 

A oedd hi’n arferol i gadw dyletswydd? Oedd

 

Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd? Amser cinio

 

Pwy fyddai’n cymryd rhan? Y meistr ar hwsmon  

 

A gymerai pawb ran yn ei dro? Na chymerau  

 

A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? Nag oedd

 

Os felly, pa fwyd? –

 

Beth oedd enw’r pryd? –

 

Ym mh’le y bwyteid ef? –

 

A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? –

 

Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? Am hanner dydd 

 

A fyddai pawb un cael yr un bwyd? Na fyddai

 

Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? Fel arfer tatws, cig a llaeth

 

A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? Na fyddai. Y gweision ar morynion yn y briws

 

A oedd enw arall ar ginio? Nag oedd  

 

 

[MS 355_0002]

 

A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Amser cynheuaf

 

Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? Oedd, Caws, Bara, menyn a jam

 

Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio? a chloch

 

Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn? Nid oedd dim ar ol tê dan swper

 

Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? –

 

Beth a fwyteid? Uwd a llefrith

 

Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn? Yn y Briws

 

Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? Wyth o’r gloch

 

Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? Swper

 

Beth a fwyteid iddo? Uwd a llefrith neu fara llaeth

 

Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraift?) Y gweision ar morynion

 

Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn? Ardderchog o dy y meistr

 

Pa amser a wneid y godro? Hanner awr wedi chwech, bore a nos

 

A fyddid yn dyrnu â ffust? Dim yn fy aw i

 

Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? Pan fyddai amser yn caniatau

 

A beth am y dynion? Ar nos Sadwrn

 

Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft) Cerdded tai

 

Sut yr oedd pobl y neu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Rhai yn addysgu y plant erail i drafod pynciau ynglyn a’r [farm?]

 

Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? Tua naw o’r gloch yr hwyr

 

A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? Y morynion i [barsiau?] ar gyfer y bore, ar gweision beth a fynent

 

A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf? Dim gwahaniaeth

Owner:
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Crëwr:
Y Gwas Bach
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
MS 355
Eitem wedi’i llwytho:
26/10/2021
Gwelediadau:
161
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment