Atebion i Holiadur 1957 gan John J. Williams
Disgrifiadau
Atebion i holiadur gan John G. Williams, Llanfechell, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.
Trawsgrifiad
[MS 354_0001]
Gorffennaf 17, 1957
[Wedi ysgrifennu ‘Clwb Pensiynwyr Padrig’]
Enw: John G Williams
Cyfeiriad: [Y? 7?] Bungalow, Llanfechell
Beth oedd amser codi arferol? 5 o’r gloch
A godai pawb yr un amser? Na fyddant, ond y certmyn ar porthwr
A wneid unrhyw waith cyn brecwast? 2 awr cyn brecwast yn y cynhaeaf a brecwast am 7 yr adeg hono
Pa bryd oedd amswer brecwast? 6 o’r gloch
Beth a fwyteid I frecwast? Bara llaeth a Brwas
A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Byddant y gweision
A oedd hi’n arferol i gadw dyletswydd? Gyda’r mwyafrif
Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd? Ar ôl y Boreufwyd
Pwy fyddai’n cymryd rhan? Gwr y ffarm a’r gweision hynaf
A gymerai pawb ran yn ei dro? Pawb yn ei dro
A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? Nac oedd
Os felly, pa fwyd? –
Beth oedd enw’r pryd? –
Ym mh’le y bwyteid ef? –
A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? –
Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? Hanner dydd
A fyddai pawb un cael yr un bwyd? Byddai y gweision
Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? Tatw llaeth tatw, gravy a beef
A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? Byddai by gweision
A oedd enw arall ar ginio? Prawnfwyd
[MS 354_0002]
A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Na fyddant
Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? –
Sut oedd galw’r dynion or’ caeau i’r tŷ i gael eu cinio? Gyda gloch, crogau, neu yn hwsmon yn galw, ac yn cychwyn am y ty
Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawd? 6 o’r gloch
Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? Cynyswyd neu te
Beth a fwyteid? Powliad o de, bara cymysg a digon o fenyn pot
Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn? Yn y briws, neu y gegin
Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? am 7 o’r gloch
Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? Swper
Beth a fwyteid iddo? Powliad o uwd a digon o lefrith ac bara menyn
Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraift?) Dim ond y rhai sengl gan y byddai y gwyr yn mynd gartref
Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn? Y Beilif yn rhoi [yr orden?] ir hwsom, ac yntau yn ei rannu wedyn
Pa amser a wneid y godro? Ar ol y boreufwyd, y porthwr, morynion a’r gwas bach
A fyddid yn dyrnu â ffust? Byddant
Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? Yn y prynhawn. Gwadd i de, a [freal?] o [deiseu?] gri
A beth am y dynion? Ar ol noswydd
Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft) Cerdded tai
Sut yr oedd pobl y neu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Seiat, Penny Reading, neu y dynion yn tyrru at ei gilydd a pawb ei stori
Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? 9-30pm – 10pm
A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? Y merched yn gwnio neu yn gweu, neu trwsio sannau
A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf? [Teby?] fyddai y bwyd
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment