Atebion i Holiadur 1957 gan Edward Jones
Disgrifiadau
Atebion i holiadur gan Edward Jones, Llanerchymedd, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.
Trawsgrifiad
[MS 353_000
Gorffennaf 17, 1957
Enw: Edward Jones
Cyferiad: Ty Capel, Llanerchymedd
Beth oedd amser codi arferol? 5 o’r gloch y bore
A godai pawb yr un amser? Na dim ond y gewision a’r morwynion
A wneid unrhyw waith cyn brecwast? Fe [wnaud?] hâf a gaeaf
Pa bryd oedd amser brecwast? 6 o’r gloch y bore
Beth a fwyteid i frecwast? Bara llaeth a bara brwes
A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? Na fyddai y gwasanaethyddion fyddai yn cael y [salaf?]
A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd? Fel rheol ar ôl boreufwyd
Pwy fyddai’n cymryd rhan? Y meistr gyda’r gwasanaethyddion yn eu tro
A gymerai pawb ran yn ei dro? –
A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? Nag oedd
Os felly, pa fwyd? –
Beth oedd enw’r pryd? –
Ym mh’le y bwyteid ef? –
A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? –
Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? 12eg o’r gloch
A fyddai pawb un cael yr un bwyd? Na fyddai
Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? Cig môch wedi ei halltu, beef wedi ei halltu, tatw a llaeth a phenwaig hallt
A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? Na fyddai byddai y gwasanaethyddion yn y briws a’i meistr a’r fastres yn y gegin
A oedd enw arall ar ginio? Prynhawnfwyd
[MS 353_0002]
A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? Byddai bwyta cinio yn y caeau yn amser cynheuaf
Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? Yr oedd yn wahanol
Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio? Byddai rhai yn arfer galw gyda cragen glan y môr eraill gyda cloch
Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawd? Oddeutu 4 o’r gloch
Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? Cynmys fwyd neu gynyswyd
Beth a fwyteid? Bara haidd. Bara gwenith ymenyn pot gyda llaeth ac yna yn ddiweddarach daeth te
Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn? Bwyteid ef yn y caeau ond [aed?] i’r briws pan yn gweithio o gylch y ty
Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? Oddeutu 8 o’r gloch
Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? Swper
Beth a fwyteid iddo? Uwd llaeth
Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraift?) Y llanciau sengl a’r morwynion
Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn? Byddai y certmon yn rhoi yn holl amser gyda’r cyffylau y [porthant?] gyda’r gwartheg yna byddai yr hwsmon gyda gwahanol ddyletswyddau sef cau y cloddiau a thacluso o gylch y fferm
Pa amser a wneid y godro? Oddeutu 6:30 yn y bore ac yna rhwng 5 a 6 yr hwyr ond byddai peth newid ar y Sadwrn a’r Sul
A fyddid yn dyrnu â ffust? Byddai
Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? Byddai ymweliadau achlysurol o fferm i fferm oddeutu 3 neu yn y prynhawn
A beth am y dynion? Byddent yn cyfarfod wedi noswyl
Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft) Mynd i hel [visit?]
Sut yr oedd pobl y neu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi? Byddai rhai yn canu ystrymant ac oed y gynnal nosweithiau llawen cadw gwylnos eraill yn [dieynydda?] a darllen, eraill y pendronni i gael dau pen linyn gyda theuad o blant.
Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? Rhwng 9 a 10eg gan byddai codi yn fore
A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? Byddai taclu esgidiau a llawer o waith coed a naddu llwyau pren, plethu rhaffau, fel byddai y ddiddordebau
A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf? Ychydig o newid fyddai yn y bwyd gan nad oedd llawer o amrywiaeth ar y fferm yn y cyfnod hwn
[MS 353_0003]
Gwas Bach
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment