Skip to main content

Atebion i Holiadur 1957 gan Edward David Williams

Disgrifiadau

Atebion i holiadur gan Edward David Williams, Aberffraw, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.

Trawsgrifiad

[MS 349_0001 ]

 [Atebion wedi ei ysgrifennu gan law]

 

 Beth oedd amser codi arferol?  4 o’r gloch y bore.

 A godai pawb yr un amser? Codai’r gweisiau am bump o’r gloch.

 A wneid unrhyw waith cyn brecwast? Byddai’r gweisiau yn porthi’r anifeiliaid a caithu.

 Pa bryd oedd amser brecwast?  chwech o’r gloch i’r gweision.

 Beth a fwyteid i frecwast? Bara llaeth.

 A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? na fyddai.

 A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd? nac oedd.

 Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd? —

 Pwy fyddai’n cymryd rhan? —

 A gymerai pawb ran yn ei dro? —

 A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio? nac oedd.

 Os felly, pa fwyd? —

 Beth oedd enw’r pryd? —

 Ym mh’le y bwyteid ef? —

 A oedd amser arbennig i’r pryd hwn? —

 Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer? Deuddeg o’r gloch.

 A fyddai pawb yn cael yr un bwyd? na fyddai.

 

Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio? Tatws a chig, neu yn yr haf [bau] nad oedd tatws ceid  ‘[bara] gwyn’ .

 

 A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle? na fyddai.

 A oedd enw arall ar ginio? nac oedd.

 

 

[MS 349_0002

 

A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl? dim ond yn ystod y cynhaeaf.

Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol? ‘Brŵas’.

Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ gael eu cinio? [Arfereut?] ddod erbyn hanner dydd.

Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn?  pedwar o’r gloch.

Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno? ‘Cnwswd’.

Beth a fwyteid? Llaeth a bara ‘menyn.

Ym mh’le y bwyteid y pryd hwn? Briws.

Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos? wedi gorffen gwaith y dydd.

Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno? swper.

Beth a fwyteid iddo? Uwd a llefrith

Pwy fyddai yno (Y gweision er enghraifft?) y gweisiau.

Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?

Pa amser a wneid y godro? Hanner awr wedi saith y bore a hanner awr wedi pedwar gyda’r nos

A ffyddid yn dyrnu â ffust? na fyddai

Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion? gyda’r nos

A beth am y dynion? gyda’r nos

Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y feiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft). ‘Cymowta’

Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?   Dod at eu gilydd i adrodd straeon

Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely? deg o’r gloch

A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd? ambell waith gwneid canhwyllau [brwyn?]

A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r haf?

 

 

[MS 349_0003

Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd tŷ yn eich ardal? Parlwr, cegin, briws, llofft y forwyn.

A oedd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod y cynhaeaf? Oedd, gwneid [pwdiw?] yr adeg yma.

Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion ( er enghraifft, ‘hwsmon’ gwas mawr, gwas bach)? hwsmon, eilgwas, gwas fach, [pathwr?], [cabmon?], morwyn y gegin a morwyn y briws.

Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal? 

Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal?

Dychweler y ffurflen hon i J.O. Jones, Ysgrifennydd, Cyngor Gwlad Môn, Llangefni

Owner:
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Crëwr:
Edward David Williams
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
MS 349
Eitem wedi’i llwytho:
26/10/2021
Gwelediadau:
223
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment