Skip to main content

Atebion i Holiadur 1957 gan William Jones

Disgrifiadau

Atebion i holiadur gan William Jones, Rhosneigr, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.

Trawsgrifiad

[MS 348_0001 ]

 

Beth oedd amser codi arferol?

Caniad y Ceiliog, 4.30 i 5 o’r gloch

A godai pawb yr un amser?

Gwnant

A wneid unrhyw waith cyn brecwast?

Gwneid

Pa bryd oedd amser brecwast? 

Tua 7 o’r gloch

Beth a fwyteid i frecwast?

Potas gwyn, brwas, neu fara llaeth

A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?

Byddant

A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?

Oedd

Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd?

Ar ol brecwast

Pwy fyddai’n cymryd rhan?

Y Penteulu, ar gweinidogion yn ei tro

A gymerai pawb ran yn ei dro?

Gwnant

A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?

Nac oedd

Os felly, pa fwyd?

-

Beth oedd enw’r pryd?

-

Ym mh’le y bwyteid ef?

-

A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?

-

Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?

Haner dydd

A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?

Byddant

Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?

Tatws, cig berw a brwas a bara

A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?

Dim yn mhob man.

A oedd enw arall ar ginio?

 

 

[MS 348_0002]

 

A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?

Byddan amser cynheuaf i [arbed] amser.

Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?

Oedd.

Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r ty i gael eu cinio?

Gyda’r Grogan ar gloch yn ddiweddarach

Am faint o’r gloch yr oedd pryd y prynhawn?

Tua 4 o’r gloch

Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno?

Cnwswyd

Beth a fwyteid?

Te, bara cymysg, bara ceirch ac ymenyn dim ond treat oedd bara gwyn ar rhyw achlysur neillduol

Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?

Gyda’r gorchwyl ple bynag y byddant

Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?

Haner awr wedi saith i wyth

Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?

Hwyr bryd neu swpar

Beth a fwyteid iddo?

Sican, pincwsmali, llymru

Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)

Y teulu ar gwasion sengl

Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?

[Arcdig hau] planu tatws lladd gwair ac yd [toi] dyrnu, codi tatws

Pa amser a wneid y godro?

Tra byddai y dynion yn bwyta brecwast

A fyddid yn dyrnu â ffust?

Byddant

Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?

Prydnawn fel rheol

A beth am y dynion?

Gyda’r nos

Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)

-

Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?

Trysori i’r cof, adrodd chwidlau, codi afalau or dwr heb gymorth llaw

Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?

Naw i haner wedi

A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?

Gwneid, gwneud canwyllau gwer, a gwau hefo y droell

A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?

Dim llawer o wahaniaith

Owner:
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Crëwr:
William Jones
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
MS 348
Eitem wedi’i llwytho:
26/10/2021
Gwelediadau:
201
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment