Atebion i Holiadur 1957 gan Owen Hughes
Disgrifiadau
Atebion i holiadur gan Owen Hughes, Llanddeusant, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.
Trawsgrifiad
[MS 347_0001 ]
Beth oedd amser codi arferol?
5.30. Yr hwsmon yn gyfrifol am alw pawb
A godai pawb yr un amser?
Na wnai, teulu’r ty yn ddiweddarach
A wneid unrhyw waith cyn brecwast?
Porthi’r gwartheg a’r ceffylau
Pa bryd oedd amser brecwast?
7 o’r gloch
Beth a fwyteid i frecwast?
Bara, llaeth neu brwas bara ceirch, a phaned o de a bara menyn
A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?
Na fyddai, byddai’r teulu ar wahan
A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?
Oedd mewn rhai ffermydd
Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd?
Yn y bore rhan amlaf- ganol dydd gan eraill (os byddai’r meistr yn methu codi)
Pwy fyddai’n cymryd rhan?
Y meistr
A gymerai pawb ran yn ei dro?
rhan amlaf a gweision hefyd os byddent o’r un tueddiadau. Cychwynodd aml weddïau cyhoeddus fel byw ar yr aelwyd
A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?
Nac oedd
Os felly, pa fwyd?
-
Beth oedd enw’r pryd?
-
Ym mh’le y bwyteid ef?
-
A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?
-
Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?
12 o’r gloch
A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?
Na fyddai y teulu ar wahan i gwasanaethyddion
Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?
Tatw [trwy i crwyn] tatw llaeth tatw menyn. Tatw a chig buwch ac hefyd biff mewn rhai mannau
A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?
Na fyddent
A oedd enw arall ar ginio?
Pnawnfwyd
[MS 347_0002]
A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?
Na fyddem
Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?
-
Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r ty i gael eu cinio?
Chwythu cragen a rhwll ynddi, yn ddiweddarach cloch neu ffliwt
Am faint o’r gloch yr oedd pryd y prynhawn?
O 4 i chwech o’r gloch
Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno?
Cnwsfwyd
Beth a fwyteid?
Yn yr haf, llaeth oer a bara menyn, te a bara menyn hefyd. Bwyteid bara haidd yn arferol ond ceid bara gwyn i de y Sul. Anfynych iawn y ceid teisen.
Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?
Yn y caeau gyda’r gwaith os byddai’r tywydd yn caniatau. [Er] engraifft teneuo [ywdeno] cynhaeaf yd a gwau [ac] amser codi tatws
Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?
Rhwng 7 ac 8 o’r gloch wedi gorffen swperu’r anifeiliaid
Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?
Swper
Beth a fwyteid iddo?
Uwd blawd ceirch, fel rheol a dogon o lefrith
Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)
Y gweision yn unig
Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?
Yr oedd digon o ddwylo ar gyfer y gwaith a phawb a’i waith wedi ei drefnu iddo o’r gwas bach i fyny
Pa amser a wneid y godro?
Tua 6 o’r gloch- a [unobwynion] ar gwas bach oedd y gyfrifol
* A fyddid yn dyrnu â ffust?
Byddid. [Iarawai] ambell un anghelfydd ei ben â’r ffust
Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?
Rhwng 3 a 4 o’r gloch, erbyn te (chwilboeth a stori-chwedl am hen wag a [adwaeneuta])
· A beth am y dynion?
Cent hwy i ymweld gyda’r nos
Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)
Cerdded tai
Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?
Y merched yn nyddu, a gweu, a gwnio, yr oedd [cwrllio] yn gelf yr adeg hon. Byddai dynion yn trwsio sgidia’r teulu, gwneud ffyw- ac ambell i hen lyfr bryf yn darllen. Adrodd straeon [gwcheslol] megis cwffio, neidio te
+ Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?
Amrywiol iawn
A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?
Tylinio’r toes erbyn pobi drannaeth, plices taliog, gwneud y bara llaeth
A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?
Dim llawer o wahaniaeth- ond ceid [lobs] caws yn y gaeaf
[MS 347_0003]
Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd ty yn eich ardal?
Briws, cegin, parlwr, ty llaeth, selar
A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod cynhaeaf?
Ceid tatw yn y poplis- a phwdin plwm yn y chwaneg. Tra y ceid mwy o de yn ystod y cynhaeaf
Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion (er enghraifft, ‘hwsmon’ gwas mawr, gwas bach)?
Gwas bach, 3ydd certmon, 2 gertmon, a phen certmon (os byddai [lau] gwedd) Hwsmon a phorthwr a dyn caled (ei waith oedd cau ac agor ffosydd) hefyd morwyn dynion a morwyn y gegin
Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal?
Ysgubor, beudy, cytiau moch, cwt ieir, cwt [llora] cwt [borlai] cwt golchi
Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal?
Yr oedd llawer iawn o arferion da yn ffynnu yn fy ardal megis Penny neu dingo, lle y caffai’r ieuanc fwynhau a datblygu ei dalent. Ai llawer o’r [llanelau] a merched i’r Seiat a Cyfarfod Gweddi- a llawer i’r dafarn hefyd i dreulio’i hamser am [hamau] prin. Yn y pentre yr oedd ty bwyta, lle y darperid buns, bara peilliad, penwaig picl a ginger beer ar gyfer y boys. Hen ferch neu wraig weddw fyddai yn cadw’r busnes bach hwn, fel rheol.
[MS 347_0004]
* Yr oedd hen wr o’r enw Gwen Rolant yn ardal Ceirchiog na wnai ddim ond dyrnu â ffust. Yr oedd yn bregethwr cynorthwyol, a bu yn pregethu yn Lerpwl draen er mai Cymro uniaith ydoedd
· Yr oedd hyn yn arferiad da iawn mewn llawer lle. Ai y rhai gwell atynt o gwmpas- ac os gwelent angen yr oeddynt yn [bur] barod i estyn cymorth.
+ Amrywiol iawn oedd amser gwely . Byddai’r [llancean] yn mynd allan i streicio- byddant hefyd yn ymgynyll yn y felin lle y byddai’r gwaith yn mynd ymlaen drwy’r nos ar amserau arbennig, byddai neb yn [?] pryd yr [anf] i orffwys
Gynhyrchodd y cyfnod hwn lawer iawn o gymeriadau gwych sydd a’u dylanwad yn aros. Diwylliant beiblaidd oedd diwylliant cefn gwlad, ar capel ar llan oedd canolbwynt bywyd cymdeithasol yr ardal.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment