Atebion i Holiadur 1957 gan William Roberts
Disgrifiadau
Atebion i holiadur gan William Roberts, o Fryngwran, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.
Trawsgrifiad
[MS 345_0001 ]
Beth oedd amser codi arferol?
5 o’r gloch y bore
A godai pawb yr un amser?
Gwna
A wneid unrhyw waith cyn brecwast?
Gwna
Pa bryd oedd amser brecwast?
Tua saith
Beth a fwyteid i frecwast?
Bara llaeth. Brwas bara ceirch a chwpanaid o de
A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?
Y gweithwyr a’r morwynion i gyd yr un fath
A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?
Oedd
Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd?
Ar ôl brecwast
Pwy fyddai’n cymryd rhan?
Y gwr. Neu os y byddai un or gweithwyr yn ddyn. Da.
A gymerai pawb ran yn ei dro?
Na. Wnai.
A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?
Nag oedd.
Os felly, pa fwyd?
-
Beth oedd enw’r pryd?
-
Ym mh’le y bwyteid ef?
-
A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?
-
Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?
12 o’r gloch
A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?
Byddai
Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?
Tatw llaeth, ac wedyn tatw a chig a bara.
A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?
Byddai
A oedd enw arall ar ginio?
Pnawnyd.
[MS 345_0002]
A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?
Ambell dro.
Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?
Nac oedd.
Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r ty i gael eu cinio?
Drwy chwythu crogen, neu canu cloch.
Am faint o’r gloch yr oedd pryd y prynhawn?
Rhwng tri a phedwar o’r gloch
Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno?
Cnyswyd.
Beth a fwyteid?
Te. Bara. Menyn.
Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?
Weithiau yn y ty. Tro arall yn y caeau.
Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?
Rhwng wyth a naw o’r gloch
Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?
Swper.
Beth a fwyteid iddo?
Uwd.
Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)
Y Gweision
Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?
Ambell dro yw ffitio yn iawn. Tro arall ddim mor gyfleus.
Pa amser a wneid y godro?
Tua chwech o’r gloch y bore a rhwng pedwar a phump o’r gloch y nos.
A fyddid yn dyrnu â ffust?
Na fyddai.
Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?
Cwestiwn yn anodd. Braidd iw ateb. Ambell i wraig ym ymweld a’u chymdogion trwy’r dydd.
A beth am y dynion?
Byddai’r dynion byth mynd dim amser.
Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)
Cerded tai.
Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?
Meched yn gwau sannau a’r dynion yn magu’r hogia a’u dysgu i gerdded.
Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?
Naw o’r gloch.
A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?
Dysgu’r plant I ddweud adnodau.
A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?
Nac oedd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment