Atebion i Holiadur 1957 gan Richard Roberts
Disgrifiadau
Atebion i holiadur gan Richard Roberts o Fryngwran, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.
Trawsgrifiad
[MS 344_0001 ]
Beth oedd amser codi arferol?
5 (yn y gaeaf), 5.30 yn yr haf
A godai pawb yr un amser?
Y gwnsion a’r morwynion
A wneid unrhyw waith cyn brecwast?
Yn y gaeaf dwfnhau yr anifeiliaid a bwydo, a hefyd glanhau y stabl a’r beudu
Pa bryd oedd amser brecwast?
Am chwech
Beth a fwyteid i frecwast?
Bara llaeth neu brwas bara ceirch
A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?
Y gweision yn y briws [ nis pwydderu] ddim am y gegin bwrdd
A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?
Nid ym mhob lle, mi fyddai yr hwsmon yn gofyn am bendith mewn ambell fferm
Pa bryd yn ystod y dydd y cedwid dyletswydd?
Yn y bore os y byddai hynny yn cymryd lle
Pwy fyddai’n cymryd rhan?
Dynion a fyddai yn arfer a bod yn gyhoeddus yn yr Eglwsyi
A gymerai pawb ran yn ei dro?
Na nid pawb
A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?
Na fyddai
Os felly, pa fwyd?
-
Beth oedd enw’r pryd?
-
Ym mh’le y bwyteid ef?
-
A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?
-
Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?
Am haner dydd
A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?
Mae yn debyg na fyddai, am nad oedd pawb yn bwyta yn yr un lle
Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?
Tatws llaeth a bara menyn, dipyn o gig ar y Sul
A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?
Na fyddennt
A oedd enw arall ar ginio?
Pryndawnfwyd
[MS 344_0002]
A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?
Na fydden
Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?
-
Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r ty i gael eu cinio?
Crogen, ei chwythu
Am faint o’r gloch yr oedd pryd y prynhawn?
Pedwar o gloch yn y cynheaf
Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno?
Cynyswyd, neu te
Beth a fwyteid?
Bara a menyn
Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?
Ar y cae
Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?
Am wyth o’r gloch
Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?
Uwd
Beth a fwyteid iddo?
Uwd llaeth neu lefrith
Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)
Yr hwsmon, ail was, ar certwyr y porthwr ac eraill dros y cynhaeaf
Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?
Yn y gaeaf, pump yn y bore tan yr haf chwech yn y bore hyd hwyr amser cynhaeaf neu o chwech hyd chwech amser arall
Pa amser a wneid y godro?
Chwech y bore a pump y prydnawn
A fyddid yn dyrnu â ffust?
byddai
Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?
Unrhyw amswer
A beth am y dynion?
Dim llawer o amswer i weld neb
Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)
Cerdded tai
Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?
Yn y haf os y byddai amser yn yr ardd. Yn y gaeuaf am y gwely (gwaith a gwely)
Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?
Am nawr o’r gloch
A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?
Dim llawer o amser wneud dim
A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?
Nag oedd
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment