Atebion i Holiadur 1957 gan Margaret Williams
Disgrifiadau
Atebion i holiadur gan Margaret Williams o Langaffo, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.
Trawsgrifiad
[MS 343_0001]
Beth oedd amser codi arferol?
Hanner awr wedi pump i chwech
A godai pawb yr un amser?
Fel rheol
A wneid unrhyw waith cyn brecwast?
Godro a llitho lloi
Pa bryd oedd amser brecwast?
Saith
Beth a fwyteid i frecwast?
Bara llaeth a The a Brechdan Brwas Bara Ceirch Dydd Sul
A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?
Nid bob amser
A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?
Ar ol brecwast
Pwy fyddai’n cymryd rhan?
Y Penteulu
A gymerai pawb ran yn ei dro?
Darllen bob yn ail
A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?
Oedd
Os felly, pa fwyd?
Mewn rhai ffermydd ceid maidd yr iar neu [shot]
Beth oedd enw’r pryd?
Paned ddeg
Ym mh’le y bwyteid ef?
Wrth y gwaith yn y cae
A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?
Rhwng naw a deg
Am faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?
Haner dydd
A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?
Dim bob amser
Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?
Cig eidion neu gig moch tatws a llaeth
A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?
Dim fel rheol
A oedd enw arall ar ginio?
[MS 343_0002]
A fyddech chwi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?
Dim cinio
Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?
-
Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r ty i gael eu cinio?
Gyda chrogau neu gloch
Am faint o’r gloch yr oedd pryd y prynhawn?
Pump yn y gaeaf a chwech yn haf
Beth oedd yr enw, neu’r enwau, arno?
Gynwys fwyd
Beth a fwyteid?
Llaeth twym a brechdan radell a menyn yn lleol ddiwedar y ceid te
Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?
Ar fwrdd y Briws
Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?
Wyth or gloch
Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?
Swper
Beth a fwyteid iddo?
Uwd a llaeth neu lefrith
Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)
Y gweision
Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?
-
Pa amser a wneid y godro?
Ar ol te
A fyddid yn dyrnu â ffust?
Gwelais ddyrnu a ffust mewn ein lle bach
Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?
Yn y pnawn ar Visit
A beth am y dynion?
Yn y ffair
Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)
Hel [cuees]
Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?
Byddai y gwragedd yn gwau hosanau a gwnio ar dynion yn gwneud [preuau] rhaffau a llwyau pren yn y gaeaf a [luitio] yn yr haf neu ddawnsio
Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?
Am naw neu [bar] agos
A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?
Byddai y merched yn smoothio a startsio colleri a [thr] bara ceirch
A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?
Oedd ceid mwy o amrywiaeth yn yr haf megis cig ffresh yn lle cig wedi halltu. Sieau a [llywru] a photes gwyn yn lle brwas hallt
[MS 343_0003]
Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd ty yn eich ardal?
Parlwr Cegin Briws Bwtri Ty llaeth a chegin allan neu gegin foch
A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod cynhaeaf?
Oedd ceid tatws rhost a phwdin plwm
Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion (er enghraifft, ‘hwsmon’ gwas mawr, gwas bach)?
Hwsmon Pencartmon Ail gertmon Eil gwas Porthwr a gwas Bach
Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal?
Beudy Stabal Cwt malu Cwt Ebolion Cwt lloi, Huwal, Iard Gwartheg tewion Cwt arfau a Llofft Granar
Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal?
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment