Skip to main content

Atebion i Holiadur 1957 gan Hugh Williams

Disgrifiadau

Atebion i holiadur gan Hugh Williams, Llanfaelog, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.

Trawsgrifiad

[MS 341_0001]

[Beth oedd amser codi arferol?]  [A godai pawb yr un amser?]

O 5 i 5.30, Dibyna ar faint o waith cerdded oedd gan y gweithiwr o’i gartref at ei waith. Chwech y codai y gweithwyr a gysgai ar y fferm a’r forwyn hefyd. Yr hwsmon a alwai arnynt. Ar ol [sic] hyn y codai’r ffermwr ai[sic] deulu.

[A wneid unrhyw waith cyn brecwast?] [Pa bryd oedd amser brecwast?]

Gwneid llawer o waith cyn brecwast yn y Gaeaf. porthi’r da, carthu’r ystabl, a’r beudy, a godro. Haf gweithid am awr cyn brecwast, os byddai hwnnw am saith, ond os brecwast am 6. nid eid i weithio. Byddai’r cloc bob amser hanner  awr (in advance)

[Beth a fwyteid i frecwast?]

Bara Llaeth. Te. Bara cymysg a bara gwyn. Digon o lefrith. Llai o siwgr ac ambell fferm yn gynil [sic] gyda’r ymenyn.

[A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?]

Y gweision gyda’i gilydd, y teulu yn hwyrach pan fyddai arogl cig moch iw[sic] glywed

[A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?]

Fe fu ychydig o gadw dyletswydd yn ystod y Diwygiad. 1904 oddeuty.

[Pa bryd yn ystod y dydd y cedwir dyletswydd?]

ac fe’i cedwid amser cinio, os digwydda i’r hwsmon, neu’r porthor fod wedi cael diwygiad

[Pwy fyddai’n cymryd rhan?]

Ni chymerai pawb ei ran. Chafodd pawb ddim (Troedigaeth)

[A gymerai pawb ran yn ei dro?]

[A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?]

Nac oedd, ond cai’r gwas bach, a’r porthwr (weithia) yn y gaeaf gan eu bod wrth y ty.

[Os felly, pa fwyd?]

Diod o de a brechdan.

[Beth oedd enw’r pryd?]

(Panad ddeg)

[Ym mh’le y bwyteid ef?]

Yn un o’r beudai, byddent yn gofalu am gadw yn agos i’r ty pan oedd amser panad.

 

[A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?]

Tua deg.

[A faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?]

Hanner dydd

[A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?]

Dim ond y gweithwyr a’r forwyn. Byddai’r teulu yn bwyta trwodd yn y gegin, ac nid yn y briws.

[Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?]

tatw. Biff wedi ei ferwi, ac yn aml yn ddigon hallt. Llaeth. Bara ac ymenyn. Stwns ffa. Stwns Rwdan. Ac weithiau Tatw drwy’u crwyn.

[A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?]

Roedd hi’n dy Cyffredin, a Thy’r Arglwyddi amser cinio hefyd.

[A oedd enw arall ar ginio?]

Chlywais i erioed ddim enw arall

 

[MS 341_0002]

[A fyddech chi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?]

Na fyddent.

[Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?]

[Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio?]

Clywais nhad yn dweud mai Cragen fyddai’n galw ond ychydig fedrai ei chanu. Pan gofiaf i roedd watches gan bawb, o’r gwas bach efo’i watch 2/9  i’r certmon hefo’i watch arnian[sic] (Wartaki??)

[Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn?]

pedwar o’r gloch yn yr haf a chwech yn y gaeaf

[Beth oedd yr enw, neu’r enwau arno?]

(Cynwysfwyd) Cyn nos fwyd? Gyda’r nos fwyd?

 

[Beth a fwyteid?]

Uwd a the a brechdan.

[Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?]

Ar ol Calan Mai, yn y caeau. Y Gaeaf yn y ty ar ol[sic] cadw noswyl am chwech

[Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?]

Wyth o’r gloch, yr adeg pan orffenai Gwaith y dydd. Ni chai’r certmyn adael y ceffylau cyn eu swperu (speru) am wyth

[Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?]

 

[Beth a fwyteid iddo?]

Nis gallaf ateb hwn byddwn i wedi mynd adref.

[Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)] 

Y gweision fyddai’n cysgu yn Llofft y Stabal, a’r forwyn.

[Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?]

 

[Pa amser a wneid y godro?]

Yn union ar ol [sic] codi yn y bore pan  fyddai y forwyn wedi cael brecwast yn barod. O bedwar i hanner awr wedi yn y prynhawn

[A fyddid yn dyrnu â ffust?]

Gwelais ffust ac adnabum hen w^r fyddai’n cael ei fywoliaeth wrth ddyrnu, drwy’r gaeaf. Roedd wedi mynd yn rhy hen pan gofiaf ef.

 Y Dyrnwr a’r Ingian wyf fi yn gofio.

[Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?]

Yn y prynhawn.

[A beth am y dynion?]

Gweithio drwy’r dydd

 

[Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)]

Mynd i visit

[Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?]

Nid oedd fawr o hamdden ar ol[sic] swper wyth, ac eisiau codi am 5.30. Nos Sadwrn byddai’r rhai a gysgai ar y fferm yn mynd adre i gael “dillad glân’ gan eu rhieni

[Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?]

Yn gynar [sic] yn y gaeaf. Ond pa ddaeth “Bicycles’ byddai dipyn o grwydro. Concert yn rhywle. Penny Reading ac efallai Seiat.

[A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?]

Dim llawer

[A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?]

Tebyg fyddai

 

 

[MS 341_0003]

[Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd yn eich ardal?]

Ar Fferm    Briws. Cegin bach. Y Gegin. Llofft y Forwyn. Parlwr gore a’r Llofftydd

Tai. Y Gegin. Siambar. Ty Llaeth a’r Llofft os byddai un

[A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod y cynhaeaf?]

Byddai amser Dyrnu. Tatw Rhost a Chig a Phwdin i ginio. Te, Jam a chaws i de.

[Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion (er enghraifft, ‘hwsmon’, gwas mawr, gwas bach)?]

Hwsmon, porthwr, Pen Certmon. Ail gertmon. Gwas Bach. Ac weithiau Dyn Calad, un gyflogid am gyfnod i gau cloddiau neu rhywbeth cyffelyb. Byddai hefyd ddyn neu ddau yn cael eu cyflogi am fis o gynhaeaf

[Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal?]

Stabal. Beudy. Cwt Lloiau Cytiau Moch. Cwt Malu. Llofft Storio. Cwt Boiler lle y berwyd bwyd y moch. Shediau. Rhiwel.

[Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal?

Y rheswm yr ymgeisiais ateb y Rhain oedd fod raid i mi, pan yn ifanc, a hefyd pan ar wyliau o’r ysgol a’r coleg hefyd, fynd i weithio er mwyn helpu mam gan fy mod yn un o wyth o blant a toedd dim iw[sic] gael ond ffarm[sic]. Heddiw mae’n ffasiynol i Efrydwyr gymeryd gwaith yn y Gwyliau, ond nid oedd felly yn famser[sic] i. Gorfod gweithio ac am ychydig iawn hefyd. Ond yr oedd yn werth ei wneud pe ond y teimlad iach. Bwyta fel ceffyl ac ar ol[sic] pob diwrnod o waith yn syth i’r môr gan fod fy nghartre ar ei lan.

Owner:
Amgueddfa Cymru - National Museum Wales
Crëwr:
Hugh Williams
Gwybodaeth drwydded
Publisher Ref:
MS 341
Eitem wedi’i llwytho:
26/10/2021
Gwelediadau:
213
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment