Atebion i Holiadur 1957 gan Sydney Ellen Hughes
Disgrifiadau
Atebion i holiadur gan Sydney Ellen Hughes o Lanfachreth, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.
Trawsgrifiad
[MS 340_0001]
[Beth oedd amser codi arferol?]
5 or [sic] gloch
[A godai pawb yr un amser?]
Na fyddant, ond y Gweision ar [sic] Morwynion
[A wneid unrhyw waith cyn brecwast?]
Glanhau ac weithiau godro.
[Pa bryd oedd amser brecwast?]
6 or [sic] gloch
[Beth a fwyteid i frecwast?]
Bara Llaeth, a cwpaned [sic] o Goffi
[A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?] Na fyddant
[A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?]
Dim ymhobman.
[Pa bryd yn ystod y dydd y cedwir dyletswydd?]
Ar ol [sic] cinio.
[Pwy fyddai’n cymryd rhan?]
Y Meistr
[A gymerai pawb ran yn ei dro?]
mewn ambell le.
[A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?]
Nag oedd.
[Os felly, pa fwyd?]
-
[Beth oedd enw’r pryd?]
-
[Ym mh’le y bwyteid ef?]
-
[A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?]
-
[A faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?]
12 or [sic] gloch
[A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?]
Na fyddant.
[Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?]
Tatws, Biff wedi ferwi a Broth
Weithiau cig moch
[A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?]
Dim ond y Gweision ar [sic] Morwynion
[A oedd enw arall ar ginio?]
Prynhawnfwyd.
[MS 340_0002]
[A fyddech chi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?]
Amser cynhauaf. [sic]
[Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?]
Oedd, Te, Bara Menyn a Chaws.
[Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio?]
Gyda Ffliwt; Cloch neu Gragen.
[Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn?]
Morwynion am 4 or [sic] Gloch
ar Gweision am 6 “ “
[Beth oedd yr enw, neu’r enwau arno?]
TE.
[Beth a fwyteid?]
Dim ond Bara ymenyn
[Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?]
Yn y Gegin
[Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?]
8 or [sic] Gloch
[Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?]
Swper.
[Beth a fwyteid iddo?]
Uwd.
[Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)]
Ar [sic] morwynion.
[Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?]
Peth cyntaf Gwaith allan, wedyn gwaith ty
[Pa amser a wneid y godro?]
5 or [sic] gloch, a 4.30 Dydd Sul
[A fyddid yn dyrnu â ffust?]
Byddant.
[Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?]
Gyda’r Nos.
[A beth am y dynion?]
[Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)]
Cerdded Tai.
[Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?]
Pan mewn gwasanaeth, Pawb ai [sic] stori ac ambell englyn.
[Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?]
10 or [sic] gloch.
[A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?]
Glanhau’r Esgidiau, ar [sic] Llwyau a plicio’r Tatws.
[A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?]
Oedd.
[MS 340_0003]
[Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd yn eich ardal?]
Briws; Ty Llaeth; Y Gegin ar [sic] Parlwr
[A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod y cynhaeaf?]
Dim ond amser Dyrnu; Tatw Rhost a Cig ffres a Pwdin
[Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion (er enghraifft, ‘hwsmon’, gwas mawr, gwas bach)?]
Hwsmon; Pen Certmon; a Gwas Bach a Dyn Caled; ei waith ef oedd codi cloddiau a twtio y tir.
[Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal?]
Rhiwel; Cwt Golchi; Cegin allan lle y byddant yn pobi.
[Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal?]
Edrych ymlaen am Fawrth Ynyd i gael crempog, rhedeg gartref am y cyntaf a Ysgol.
Clapio o flaen y Pasg, a chael te party[sic] y Sulgwyn.
Wedyn y Nadolig i edrych ymlaen amdano, a chadw Watch Night.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment