Atebion i Holiadur 1957 gan Frances Grace Hughes
Disgrifiadau
Atebion i holiadur gan Frances Grace Hughes o Llanfachreth, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.
Trawsgrifiad
[MS 339_0001 ]
[Beth oedd amser codi arferol?]
Pump o’r gloch
[A godai pawb yr un amser?]
Gweision a morynion gyntaf.
[A wneid unrhyw waith cyn brecwast?]
Glanhau stabl a’r beudai.
[Pa bryd oedd amser brecwast?]
Chwech o’r gloch
[Beth a fwyteid i frecwast?]
Bara llaeth
[A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?]
Byddai’r gweision a’r morynion.
[A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?]
Oedd mewn ambell i le.
[Pa bryd yn ystod y dydd y cedwir dyletswydd?]
Amser brecwast.
[Pwy fyddai’n cymryd rhan?]
Y Teulu, morynion a’r gweision.
[A gymerai pawb ran yn ei dro?]
Y meistr a’r feistres.
[A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?]
Mewn ambell i le.
[Os felly, pa fwyd?]
Paned o goffee [sic] a brechdan.
[Beth oedd enw’r pryd?]
Paned ddeg.
[Ym mh’le y bwyteid ef?]
Yn y briws
[A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?]
Deg o’r gloch
[A faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?]
Deuddeg o’r gloch
[A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?]
Byddent.
[Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?]
Tatws a cig moch.
[A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?]
Morynion a gweision yn y briws.
Y Teulu yn y gegin.
[A oedd enw arall ar ginio?]
Nagoedd
[MS 339_0002]
[A fyddech chi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?]
Nagoedd
(amser cynhaeaf gwair a yd)
[Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?]
–
[Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio?]
Canu’r gloch
[Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn?]
Chwech
[Beth oedd yr enw, neu’r enwau arno?]
Te
[Beth a fwyteid?]
Torth gymysg, menyn pot a te.
[Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?]
Briws, yn y cae adeg cynhaeaf
[Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?]
Wyth o’r gloch
[Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?]
Swper
[Beth a fwyteid iddo?]
Uwd neu posel.
[Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)]
Y gweision
[Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?]
[Pa amser a wneid y godro?]
Tua saith y bore, rhwng pump a chwech y nos.
[A fyddid yn dyrnu â ffust?]
Na dyrnwr mawr
[Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?]
Gyda’r nos
[A beth am y dynion?]
Gyda’r nos
[Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)]
[Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?]
Canu a dweud hen straeon
[Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?]
Tua naw
[A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?]
Plicio tatws, tylino bara
[A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?]
Nagoedd
[MS 339_0003]
[Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd yn eich ardal?]
Briws, cegin, parlwr, lloftydd [sic], ty llaeth
[A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod y cynhaeaf?]
Oedd gwell bwyd cig ‘fresh’ i ginio, a pwdin.
Bara brith i de.
[Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion (er enghraifft, ‘hwsmon’, gwas mawr, gwas bach)?]
Porthwr, hwsmon, gwas mawr, gwas bach
[Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal?]
“ Orsedd deryn”, “Porti Belo.” “Roe Buck”.
“Bedo”. “Parlwr.” “Coeden Gron”
[Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal?]
Clapio dydd Llun o flaen y Pasg pan yn blentyn.
Melin wynt y[sic] troi i falu’r blawd, a’r drol a’r ceffyl yn ei gario i gyfarfod y llongau bach yn Cei Valley rhwng pedwar a phump y bore.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment