Atebion i Holiadur 1957 gan Elen Thomas
Disgrifiadau
Atebion i holiadur gan Elen Thomas, Llanddona, Ynys Môn, a baratowyd gan Amgueddfa Werin Cymru yn 1957 a dosbarthwyd gan Cyngor Gwlad Môn. Mae'r atebion yn rhoi manylion ar 'Ddiwrnod Gwaith cyffredin ers llawer dydd'.
Trawsgrifiad
[MS 338_0001]
[Beth oedd amser codi arferol?]
Pump or[sic] gloch y bore
[A godai pawb yr un amser?]
Byddai pawb or gweision ond nid y teulu
[A wneid unrhyw waith cyn brecwast?]
Yn gaeaf Porthi, Carthu, gwisgo’r wedd yn barod
[Pa bryd oedd amser brecwast?]
Chwech or[sic] gloch
[Beth a fwyteid i frecwast?]
Brywes bara Ceirch, Bara llaeth, ac efallai dê ar ei ol
[A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?]
Mewn ambell i le, ond nid bob amser
[A oedd hi’n arferiad i gadw dyletswydd?]
Oedd
[Pa bryd yn ystod y dydd y cedwir dyletswydd?]
Canol dydd ar ol[sic] cinio
[Pwy fyddai’n cymryd rhan?]
Y Meistr ar[sic} feistres, yr hwsmon ac eraill oedd yn gallu gwneyd [sic]
[A gymerai pawb ran yn ei dro?]
Gwnant os yn medru, byddai pawb yn darllen yn ei dro
[A oedd hi’n arferiad i gymryd bwyd rhwng brecwast a chinio?]
Nac oedd
[Os felly, pa fwyd?]
[Beth oedd enw’r pryd?]
[Ym mh’le y bwyteid ef?]
[A oedd amser arbennig i’r pryd hwn?]
[A faint o’r gloch yr oedd cinio, fel arfer?]
Deuddeg or[sic] gloch or[sic] munyd [sic]
[A fyddai pawb yn cael yr un bwyd?]
Mewn ambell fferm, ond bwyta yn y gegin y byddai y teulu ar [sic] gweision ar [sic] morynion yn y briws
[Beth oedd y bwyd cyffredin amser cinio?]
Tatws, llaeth a digon o gig eidion
[A fyddai pawb yn bwyta yn yr un lle?]
Na ddim ymhob lle, y gwasanaethyddion yn y briws, ar [sic] teulu drwodd yn y gegin
[A oedd enw arall ar ginio?]
Ni Chlywais am enw arall ar ginio
[MS 338_0002]
[A fyddech chi’n bwyta cinio yn y caeau o gwbl?]
Na fyddem mynd ir [sic] ty bob amser
[Os felly, a oedd y bwyd yn wahanol?]
[Sut oedd galw’r dynion o’r caeau i’r tŷ i gael eu cinio?]
Chwythu Cragen, neu bib
[Am faint o’r gloch yr oedd pryd yn y prynhawn?]
Yn yr haf pedwar or [sic] gloch, y gaeaf 6 or [sic] gloch (a tendio y ceffylau tua wyth)
[Beth oedd yr enw, neu’r enwau arno?]
Cynwysfwyd
[Beth a fwyteid?]
Bara haidd neu gymysg a tê
[Ym mh’le y bwyteid y pryd bwyd hwn?]
Ar y caeau yn yr haf, ac yn y ty yn y gaeaf
[Am faint o’r gloch yr oedd pryd gyda’r nos?]
Tua wyth or [sic] gloch
[Beth oedd yr enw (neu’r enwau) arno?]
Swper
[Beth a fwyteid iddo?]
Uwd llaeth neu lefrith
[Pwy fyddai yno? (Y gweision er enghraifft?)]
Y gweision ar [sic] morynion
[Sut y byddai’r gwaith beunyddiol yn ffitio i mewn?]
Yn drefnus iawn
[Pa amser a wneid y godro?]
(Bore) (Prynhawn)
Cyn brecwast haf a gaeaf, gorffen erbyn te chwech yn y gaeaf
a gorffen run fath yn yr haf, sef ar ol te darfod 6 o gloch
[A fyddid yn dyrnu â ffust?]
Byddai [?] cyn cof i mi
[Pa amser ar y dydd y byddai’r gwragedd yn ymweld â’u cymdogion?]
Yn y prynhawn neu gyda’r nôs
[A beth am y dynion?]
Ychydig o amser a gai y gweithwyr i ymweld ond ar y Sul
[Beth oedd yr enw yn eich ardal am fynd i alw ar bobl fel hyn? (Yn rhai ardaloedd defnyddir y geiriau ‘cerdded tai’ neu ‘cymowta’, er enghraifft)]
Ymweld a chymydog (troi i mewn)
[Sut yr oedd pobl yn eu difyrru eu hunain gyda’r nos yn eu cartrefi?]
Adrodd straeon, merched yn gweu ar[sic] dynion yn gwneyd [sic] canhwyllau brwyn.
Glanhau gêr ceffylau eto.
[Am faint o’r gloch yr eid i’r gwely?]
Rhwng naw a deg or [sic] gloch
[A wneid unrhyw waith gyda’r nos ar yr aelwyd?]
Gweu ir[sic] merched eto fel yr uchod
[A oedd bwyd gwahanol yn y gaeaf a’r hâf?]
Na tebyg fyddai bwyd gydol y flwyddyn
[MS 338_0003]
[Beth oedd enwau’r gwahanol ystafelloedd yn eich ardal?]
Briws, gegin, parlwr, pantri ty llaeth etc.
[A oedd bwyd arbennig amser cneifio neu ddyrnu, neu yn ystod y cynhaeaf?]
Byddai bwyd da iawn amser dyrnu, byddai pawb am y goreu [sic]
[Beth oedd enwau’r gwahanol fathau o weision a morynion (er enghraifft, ‘hwsmon’, gwas mawr, gas bach)?]
Hwsmon, Pen Certmon, Ail gertmon, Pen Porthwr, Ail borthwr, dyn caled, ail gwas, gwas bach
[Beth oedd enwau’r tai allan arferol yn eich ardal?]
Beudy, stabl, cwt lloi, hovel, siedau gwartheg stôr, cwt malu
ysgubor etc.
[Unrhyw wybodaeth neu atgofion arall o’ch eiddo ar arferion eich ardal?]
Un arferiad, arfer pobi hefo tywyrch ac eithin,
Corddi llaeth gyda corddwr wyntyll.
Torri yd a gwair hefo pladuriau
Llogi bachgen i wylio brain rhag iddynt godi Swedes.
Cymaint a deuddeg o fechgyn yn teneuo rwdins a dyn yn edrych ar eu hol.
Gwneyd [sic] canwyllau [sic] brwyn
Cofio merched yn cynull[sic] yr yd gymaint a chwech neu wyth ohonynt.
Cofio cario yd trwy y nos hefo goleu’r lleuad
Arfer rhoddi swllt neu ddau o ernes pan yn cyflogi gwâs fel ZEL ar y cytuneb
Hel tail gwartheg wedi sychu yn yr haf, fel tanwydd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment