Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ffotograff mawr ar gerdyn caled sydd wedi ei ddifrodi. Yn ffodus nid yw'r difrod wedi amharu ar y prif ffotograff. Mae'n gofnod o Ddosbarth 3 yng Nghanolfan Hyfforddi'r Heddlu yn Rhanbarth Rhif 8, Pen-y-bont ar Ogwr, dyddiedig 2 Mawrth 1948. Mae'r heddluoedd sydd wedi eu hadnabod yn y llun yn cynnwys Morgannwg, Dinas Caerdydd, Bwrdeistref Abertawe, Bwrdeistref Casnewydd, Sir Fynwy a Sir Benfro. Bryd hynny roedd Canolfan Hyfforddi'r Heddlu yn rhan o'r hyn arferai fod yn Bencadlys Heddlu Morgannwg. Heddiw, caiff y safle ei defnyddio gan Heddlu De Cymru.
Casgliad *The Ross Mather Police Memorabilia of Wales Collection.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (1)

Denise Dixon Isaacs's profile picture
My lovely dad, middle row far right. Kenneth Gwyn Dixon 29/3/1926 - 22/01/20122 Thank you for posting this photo

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw