Priodas Beatrice Pugh 1933 ger Llanelltyd
Priodas Beatrice Pugh 1933 ger Llanelltyd
Disgrifiadau
Diwrnod priodas Elizabeth Beatrice Pugh, chwaer fy Nain. Rydw i eto i ddarganfod ym mha le mae'r llun yma wedi ei dynnu ac efallai na chaf byth wybod bellach! Does neb o fewn y teulu yn ddigon hen i wybod na chofio erbyn hyn. Priododd Beatrice Mr. Douglas Owen ar y 7fed o Fedi, 1933 yn Eglwys St.Illtyd, Llanelltyd, ger Dolgellau. Ymgartrefodd y ddau yn Nolgellau ac yno y buont hyd y diwedd. Bu farw Beatrice ym 1979 ac yna ei gŵr, Douglas ym 1986. Mae'r ddau wedi eu rhoi i orwedd gyda'i gilydd ym mynwent yr Eglwys, Llanelltyd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment