arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Delwedd 1:Download link to the full resolution of image number 1
full resolution of image 1

Disgrifiad

Byddai basgedi yn cael eu creu ar gyfer anghenion amaethyddol, diwydiannol neu ddomestig ac yn ddull poblogaidd i bacio a chludo cynnyrch megis pysgod, cynhyrchion, tail, glo a cherrig. Yn ogystal defnyddiwyd mathau o fasgedi fel trapiau adar, llyswennod a chewyll cimychiaid. Defnyddiwyd y gwiail i greu eirch, cribynau a chwryglau. Cafodd rhai eu gwehyddu a’u gorchuddio â chlai i greu bowlenni gwrth-ddŵr. Byddai arddull a ffurf y basgedi yn dibynnu ar beth eu pwrpas a defnyddiwyd deunydd crai a oedd yn tyfu yn yr ardal leol i’w creu.

Roedd gwneud basgedi yn rhan o sgiliau niferus y tyddynnwr, byddai’n cawrdd a'i anghenion dyddiol ei hunain, yn ogystal â diwallu anghenion trigolion yr ardal. Gwnaed basgedi gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys dolennu, clymu, plethu, torchi a gwehyddu.

OWEN WILLIAMS Yng nghyfrifiad 1901 mae Owen Williams yn byw yn 6 Teras Arfonia, Cricieth ac wedi ei nodi fel “Gwneuthurwr Basgedi” ac yn rhannol dall. Erbyn 1911, nodir ei fod yn gyfan gwbl dall. Fe'i cofnodir fel enillydd cystadleuaeth creu basged yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn 1915. “Eisteddfod Success – Mr Owen Williams of Criccieth won the prize for a small dog basket at the National Eisteddfod (Farmer’s Gazette 13/08/1915).

(1) Basgedi Gwellt
Câi basgedi gwellt eu gwneud o wellt gwenith torchog wedi’u rhwymo at ei gilydd gan stribedi o fiery. Defnyddiwyd at ddibenion niferus; cychod gwenyn, i ddal hadau, corn, dillad a chadeiriau. Creuwyd y fasged trwy rwymo bwndel o wellt hefo stribed main o goes planhigyn mieri. Yn draddiadol pasiwyd y bwndel diwb corn i gadw ei drwch yn gyson. Wrth i’r gwellt gael ei dynnu allan o geg y corn byddai’r rhaff o fieri yn cael ei chlymu i’w dal mewn siâp silindr.

(2) Basged Dderw
Basged o stribedi o bren. Berwyd y pren derw am oriau i’w wneud yn feddal cyn ei dorri i stribedi hefo chyllell yn barod i wehyddu’r fasged. Roedd gan fasgedi o’r fath batrymau ac enwau gwahanol mewn gwahanol ardaloedd.

(3) Basged Cyntel/Cantell
Basged gron heb ddolen iddi, wedi plethu o wiail cyll neu helyg at ddal tatws, tywyrch, dillad a.y.b. Byddai’r ymylon y fasged hon ei wneud a gyll a fyddai’n cael ei stemio a’i blygu i ffurf hirgrwn y ffrâm. Mae Cantell yn air am ‘ymyl neu ymylon’ sy’n cyfieithu fel ‘rim neu circle’.

(4) Basged Gyrs, Gorswellt neu Frwyn.
Defnyddiwyd glaswellt maram, neu gyrs i greu basgedi hyn; i greu brwsys, rhwydi, rhaffau, coleri ceffylau, sachau grawn, matiau ac i lenwi padiau cyfrwy. Roedd y rhain yn gyffredin mewn ardaloedd arfordirol.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw