Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd cerfio coed yn boblogaidd iawn fel hobi neu fel bywoliaeth yn enwedig ymhlith morwyr ar fordeithiau hir. Roedd Siôn Edwards, o Gricieth, yn saer llong, saer tai, adeiladwr cychod a chanŵ ac roedd yn gerfiwr medrus. Hwyrach mewn bywyd gwnaeth arbenigo mewn cerfio penddelwau a cherfiadau pren ar gyfer llongau Porthmadog. Byddai’r penddelw yn cael ei osod ar flaen y llong, yn rhan o’i hunaniaeth ac yn gysylltiedig â’i enw. Cerfiadau deniadol ac addurniadol ond hefyd yn symbolaeth o’r hyn oedd yn bwysig i’r perchennog y llong, ac weithiau yn dal symbolaeth ofergoelus. Credwyd bod y ffigurau yma yn gymorth i lonyddu a heddychu ysbryd cythryblus y môr.

Cerfiodd Siôn y penddelw i’r parc enwog “Pride of Wales” adeiladwyd ym Mhorth y Gest ym 1870. Cerfiodd o ferch y perchennog mewn frog sidan gyda’i gwallt yn chwifio yn y gwynt. Gan fod y llong yn siartredig gan y llywodraeth yn India, cerfiwyd, o amgylch y starn, olygfa’r jyngl i gynrychiola’r anifeiliaid ac ymlusgiaid yng nghorsydd Burma. Gwelir esiampl o’i waith yng Nghanolfan Llongddrylliadau Aretton ar Ynys Wyth, penddelw oddi ar y sgwner “Dizzie Dunlop” (1)a llongddrylliad ar arfordir yr ynys gyda llwyth o lechi o Borthmadog. Un arall oedd ar gyfer y “Cadwalader Jones” (2) sgwner a’i hadeiladwyd ym Mhorth y Gest. Roedd capten y llong, a oedd hefyd y perchennog, yn byw ar Deras Salem yng Nghricieth.

Gwelwyd esiamplau o’i waith yn y dref a’r ardal leol sydd yn dal i fodoli, ac eraill sydd wedi symud o’u lleoliad gwreiddiol. Yn ogystal â cherfweddau eraill, creodd gerfiadau tri dimensiwn ar gyfer siopau a busnesau. Ym Mhwllheli creodd ddafad ar gyfer siop “Pwlldefaid” (3) a’r afr ar gyntedd “ Gwesty’r Afr” ym Meddgelert. Dilynodd William Edwards yn ôl troed ei dad ac fel ei dad oedd yn adeiladwr cychod ac yn gerfiwr pren arbennig. Yng Nghapel Salem mae yna esiamplau cerfiedig, ond mae yna ansicrwydd ynglŷn â phwy a gerfiodd y rhain; Siôn neu ei fab.

William Edwards a gerfoiodd ben yr eryr a arferai fod uwchben mynedfa siop yr “Eryr Aur” ar y Stryd Fawr. Gwelir ei waith hyd heddiw ar fynedfeydd tri o dai ar Deras Glasfor gyferbyn â Theras Mona yng Nghricieth(4). Cerfiwr lleol arall oedd Charles Jones o Heol Henbont; gellir gweld rhywfaint o'i waith yn Eglwys Saint Catrin (5). Cerfiodd hefyd lwyau caru - hen draddodiad Cymreig lle'r oedd dynion ifanc yn cerfio'r llwyau cywrain hyn ar gyfer eu cariadon. Mae'r rhain yn dal i gael eu cynhyrchu'n lleol heddiw fel anrhegion neu eu gwerthu fel cofroddion.

Roedd Emile de Vynck yn un o'r ffoaduriaid o Wlad Belg a ddaeth i Griccieth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ymsefydlodd ym Mhentrefelin ac roedd ganddo weithdy cynhyrchu dodrefn. Roedd yn gerfiwr talentog iawn a chreodd lawer o ddarnau ar gyfer eglwysi ledled yr ardal a chadeiriau Eisteddfod. Cerfiodd broffil o David Lloyd George a ddifrodwyd mewn tân yn ei weithdy. Yn ffodus roedd cast plastr wedi'i wneud ac mae hyn i'w weld yn y Neuadd Goffa (6).

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw