arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Delwedd 1:Download link to the full resolution of image number 1
full resolution of image 1
Delwedd 2:Download link to the full resolution of image number 2
full resolution of image 2
Delwedd 3:Download link to the full resolution of image number 3
full resolution of image 3

Disgrifiad

Lleolwyd y Barcty yng Nghricieth ar y groesffordd gyferbyn i le mae teras Arfonia heddiw. Roedd y diwydiant creu lledr yn eang, gyda bron bob tref yn eiddo ar Farcty. Lleolwyd fel arfer ar gyrion y dref oherwydd oglau o’r anwedd gwenwynig a fyddai’n cael ei chreu yn y broses o’i drin. Defnyddiwyd y lledr gan gryddion a chyfrwywyr ar gyfer esgidiau, celfi chyfrwy, harneisiau, dillad a memrwn.

Cynllun agored oedd i’r barcty yng Nghricieth, hefo cytiau pen agored i gartrefi’r pitiau. Byddai’r siediau yn ben agored i ganiatáu anwedd i ddianc, ond hefyd i arbed y glaw rhag gwanhau’r gymysgedd. Byddai croen anifail trwchus, gwydn yn cael ei defnyddio ar gyfer eitemau trwm, megis cyfrwyau ceffylau ac yn cael ei throchi mewn dŵr a rhisgl y dderwen. Byddai’r broses yn cymryd misoedd lawer, gyda’r croen yn cael ei symud o un cynhwysydd i’r llall a rheini yn cynnwys hydoddiant amrywiol o ran cryfder. Gwasgwyd y rhisgl derw yn y felin i hwyluso’r broses o dynnu allan y tanin naturiol o’r pwlp. Gerllaw roedd ffrwd yr Afon Cwrt yn llifo heibio heibio a thybir bod hwn yn helpu'r broses gan yrru’r olwyn dŵr. Byddai’r lledr ysgafnach o groen dafad neu afr yn cael eu cyweirio hefo cymysgedd o olew ac alum i arbed amliwiad. Byddai’r lledr yn cael ei sychu allan yn yr awyr agored mewn cytiau oedd yn caniatáu i’r aer lifo trwyddo. Deuai'r crwyn gan amlaf o'r lladd-dy yng Ngardd yr Esgob yn yr Hen Dref a oedd yn cael ei redeg, flynyddoedd yn ddiweddarach, gan y brodyr Humphreys.

Yn ystod y 19 ganrif bu dirywiad yn y diwydiant o greu lledr yn y dull traddodiadol mewn pitiau agored wrth i beirianwaith a ffatrïoedd gymryd drosodd. Rhestrwyd John Jones o Gefn Lwrch fel “Tanner” yng nghyfrifiad 1841. Erbyn 1861 roedd y barcty yn cael ei rhedeg gan ei fab, John M. Jones oedd yn byw yn 1 Rhes y Ffynnon ac yn cyflogi dau ddyn. Mae’n ymddangos fel petai ddyfodiad y rheilffordd ym 1867 wedi dod â’r busnes i ben gan nad oes sôn pellach amdano yn y cyfrifiadau na’r cyfeirlyfrau masnach. Parhaodd crefftau cysylltiedig serch hynny. Yng nghyfeiriadur Casey 1877 mae James Parry “currier” h.y., cwrier, neu driniwr lledr wedi enwi yng Nghricieth. Mae’n debyg mai hwn oedd y James Parry oedd â’r siop ar gornel Teras Arfonia, gyferbyn â’r hen farcty yng Nghefn Lwrch. Yn ddiweddarach, sefydlodd ei fab, a enwyd yn James hefyd, fusnes cyfrwywr yn y siop. Ar y Stryd Fawr agorodd Robert T. Pritchard siop cyfrwywr, a hynny yn y lle cyntaf yn London House cyn symud i rif 43 Stryd Fawr.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw