Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Y Ffair Gynnyrch oedd y prif weithgaredd codi arian ar gyfer Eglwys St Nicholas, Trefaldwyn ac fe'i cynhelid yn flynyddol am gyfnod o tua 50 mlynedd. Câi'r ffair ei chynnal yn Neuadd y Dref ar y 3edd nos Iau ym mis Tachwedd. Byddai cacennau, jamiau, deunydd gwnio, pasteiod a chynnyrch cig ar werth yn ogystal â ffair sborion a raffl. Byddai te a choffi yn cael eu gweini yn ogystal. Mae'n debyg mai yn y 1950au hwyr y cafodd y llun hwn ei dynnu, ac mae'n dangos Mrs Jones fu'n gyfrifol am drefnu'r digwyddiad gyntaf.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw