Cricieth - Syr Hywel y Fwyall
Disgrifiadau
Cricieth - Syr Hywel y Fwyall. Adeiladwyd y castell ar y bryn gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) yn y 1230au pan ddaeth Cricieth yn ganolfan weinyddol ar gyfer cwmwd Eifionydd. Yn 1282 gorchfygwyd Cymru a chryfhaodd ac estynnodd y Saeson y castell. Gosodwyd bwrdeistref wrth droed y bryn lle dim ond Saeson oedd yn cael byw. Yn 1337 cafodd tri o Gymry eu diarddel. Roedd rhai o'r uchelwyr lleol yn cefnogi brenin Lloegr, yn dysgu siarad Saesneg ac yn ymladd yn eu rhyfeloedd. Un o'r rhain oedd Hywel ap Gruffydd o Bron y Foel ar ystlys Foel y Gest, un o ddisgynyddion Collwyn ap Tagno Arglwydd Eifionydd. Mae'r cofnodion a'r straeon yn amrywio, ond mae'n debyg iddo ymladd mewn sawl brwydr yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd yn erbyn y Ffrancwyr. Mae'r stori gan Alltud Eifion (Robert Isaac Jones) yn y llyfr Y Gestiana yn amheus ac mae'n debyg mai dyma ffynhonnell y chwedl iddo, ym Mrwydr Poitiers (1356), dorri ben ceffyl Brenin Ffrainc gyda'i frwydr-bwyell a chymryd y brenin yn garcharor. Ym Mrwydr Crecy (1346) yn gynharach yr enillodd enwogrwydd gyntaf a chafodd ei urddo'n farchog ar faes y gad. Roedd yn bresennol yn ystod Poitiers a dyma pryd y daeth ei ddewrder ai allu gydar fwyell i sylw Edward y Tywysog Du, mab Edward III o Loegr. Cafodd sawl braint ac yn 1359 fe'i gwnaed yn Gwnstabl Castell Cricieth ac yn Faer y Fwrdeistref. Dywedir i'r Tywysog Du roi lle anrhydeddus i'r arf yn y neuadd frenhinol, gan orchymyn i fwyd gael ei weini o'i flaen yn ddyddiol. Yn ôl y chwedl rhoddodd Syr Hywel ochr o gig i bobl Cricieth bob diwrnod marchnad. Mae yna sawl cywydd am Syr Hywel. Mae un hir iawn gan Iolo Goch yn disgrifio bywyd Hywel fel cwnstabl yn y castell. Mae un arall gan Hugh ap Rheinallt yn disgrifio ei ddewrder mewn brwydr.
Och am Howel heb gelu
Ai fwyall ddichall y bu
Yn erchyll y fwyall i Ffrainc
Troi chwalfa trwy uchelfainc
Dal eu brenin heb flino
Dal ei fab ai deulu fo
A wnaeth Howel Ryfelwr
Reneiliwr y gamp pwyn ail ir g?r
Er ei farw oi urdd fawredd
Iach yw ei fawl uwch ei fedd
Bu farw Syr Hywel y Fwyall tua 1381. Ni wyddys ble mae wedi ei gladdu; dywed rhai straeon Eglwys Santes Catrin yng Nghricieth, dywed eraill yng Nghlynnog. Bu iddo un mab, Gruffydd, na adawodd unrhyw etifeddion uniongyrchol, eithr yr oedd llawer o hen deuluoedd Eifionydd yn olrhain eu hachau i Einion ei frawd h?n. Yn eironig, ymladdodd ei nai Robert ap Maredudd o Gefn y Fan (Ystumcegid bellach) ar ochr Owain Glynd?r yn y gwrthryfel pan, ym 1403, cafodd y castell ei ddifrodi a'i
losgi mor ddrwg fel na chafodd ei garsiwn gan y Saeson eto a'r dref ddaeth, ac mae'n dal i fod, yn gymuned Gymreig.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment