Skip to main content

Cricieth - Bys Cefn Castell

Disgrifiadau

Cricieth - Bys Cefn Castell.

Bwthyn bach ar y llwybr rhwng Cricieth a cheg afon Dwyfor oedd Cefn Castell. Heddiw mae adeilad modern iawn wedi ei ddisodli. Flynyddoedd lawer yn ôl roedd teulu’r diweddar Gynghorydd Henry Jones yn byw yno. Ysgrifennodd y stori ysgytwol hon yn ei hunangofiant “Straeon Harri Bach” (Gwasg Carreg Gwalch 2011).

“Cofiaf Nain yn adrodd hanes ei nain ei hun, Dora Roberts, a chafodd ei geni ym Mryn Ffynnon, Ynys. Un bore, bu farw tad Dora ym Mryn Ffynnon ac fe wyddai Dora y byddai’n cael siâr o’r ewyllys ac mae’n si?r ei bod wedi ‘capel ganu’ (ymadrodd lleol am frolio) hynny ac y gwyddai llawer o bobl yr ardal ei bod am gael arian ar ôl ei thad. Ar ddiwrnod y cynhebrwng byddai’r ewyllys yn cael ei ddarllen a’r eiddo’n cael ei rannu yn ôl trefn yr oes, ac mi aeth Dora i’r cynhebrwng a dod yn ôl y noson honno gyda’r arian yn ei meddiant. Wrth gerdded ar hyd y clogwyn (ger gwesty’r Marine heddiw), neidiodd rhywun o’r gwrych ac anelu amdani. Hitiodd Dora Roberts y dyn nes iddo syrthio i lawr y clogwyn a chyn iddo allu dringo’n ôl, rhedodd hithau am Gefn Castell. Ymhen ychydig, sylweddolodd yn ôl y s?n, fod y dyn wedi dringo’r dibyn ac yn rhedeg ar ei ôl. Cyrhaeddodd Gefn Castell ac agorodd y drws; drws dau hanner oedd hwn, fel drws beudy, gyda thwll bys er mwyn codi’r glicied bren. Rhag i’r dyn agor y drws, gwthiodd y bwrdd derw oedd yn y gegin yn erbyn y drws. Ar y bwrdd ‘roedd bara, menyn a chyllell fara mawr. Yn anffodus, er ei fod yn rhwystro gwaelod y drws rhag agor, nid oedd y bwrdd yn rhwystro’r rhan uchaf ac mi welodd Dora fys yn dod trwy’r twll i agor y glicied. Cododd y gyllell a rhoi clec i’r bys nes yr oedd ar y llawr. Dechreuodd y dyn weiddi a rhedodd oddi yno. Ymhen sbel, daeth ei g?r John Roberts, adra ar ôl bod o gwmpas y stoc. Roedd Dora yn eistedd yn welw ei gwedd, a dyma’r g?r yn gofyn beth oedd wedi digwydd. ‘Mae ‘na rywun wedi trio dwyn y pres ond mae ‘na nod arno’ ‘Be di hwnnw?’ Dyma hi’n dangos y bys ar y llawr. Aeth John Roberts yn ôl at y sgweier a dweud beth oedd wedi digwydd. Heliodd hwnnw griw o ddynion o blith ei weision a’i denantiaid i chwilio am y dyn. Pwy oedd dyn? Doedd neb yn gwybod ond credir mai mab un o’r ffermydd cyfagos oedd o. Dyna’r cwbl oedd Nain yn ei wybod. Dywedodd iddi weld y stori wedi ysgrifennu yng nghefn Beibl y teulu.”

Owner:
Cricieth Enwau Chwedlau a Chân Criccieth Songs Places and Legends
Crëwr:
Ffion Gwyn Robert D.Cadwalader
Gwybodaeth drwydded
Trwydded Archif Greadigol Creative Archive License
Eitem wedi’i llwytho:
20/8/2021
Gwelediadau:
1492
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment