arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Delwedd 1:Download link to the full resolution of image number 1
full resolution of image 1
Delwedd 2:Download link to the full resolution of image number 2
full resolution of image 2
Delwedd 3:Download link to the full resolution of image number 3
full resolution of image 3
Delwedd 4:Download link to the full resolution of image number 4
full resolution of image 4
Delwedd 5:Download link to the full resolution of image number 5
full resolution of image 5
Delwedd 6:Download link to the full resolution of image number 6
full resolution of image 6

Disgrifiad

Yn ystod haf 1939, gyda rhyfel yn erbyn yr Almaen ar fin digwydd, sefydlodd y llywodraeth gynlluniau i symud miloedd o blant ac eraill i gefn gwlad i ffwrdd o'r dinasoedd y disgwylid i'r gelyn eu bomio. Dechreuodd y rhyfel ar y 3ydd o Fedi a chyrhaeddodd y faciwîs Cricieth ar y diwrnod cyntaf hwnnw. Bu'r Cyngor Tref a sefydliadau gwirfoddol i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i gartrefi i'r plant. Bachgen bach oedd Henry Jones ac ysgrifennodd, “Un diwrnod, aeth plant Cricieth i gyd i’r stesion i ddisgwyl llwyth o faciwîs a oedd bod i gyrraedd yno. Doedden ni ddim yn gwybod llawer am faciwîs, wrth gwrs, a wyddem ni ddim beth i’w disgwyl, ond yr hyn a welsom ni oedd cant a mwy o blant yn dod o’r trên - plant o bob maint ac oedran efo labeli mawr are eu cotiau a’u henwau arnynt, bocs “gas mask” a ches bach gan bob un. Wedyn arweiniwyd hwy fel sowldiwrs drwy Gricieth. Tynnwyd un neu ddau o’r rhes wrth bob t?, yn ôl nifer yr ystafelloedd. Cofiaf fod merched Cricieth yn crio wrth weld y plant bach yma gyda golwg druenus arnynt.” Roedd y plant a gyrhaeddodd y diwrnod hwnnw o Lannau Mersi. Sefydlwyd llawer o gyfeillgarwch gydol oes ac arhosodd neu daeth rhai o'r faciwîs yn ôl i fyw yng Nghricieth. Mae Dafydd Henry Williams yn cofio “Phwy gyrhaeddodd yn fy nghartref, sef 7 Bryntirion Terrace, ond merch fach 7/8 oed o Benbedw, Emily Jones. Roedd tri o’i brodyr , Rodney, Albert a Norman yn lletya yn agos. Fel y datblygodd pethau arhosodd Emily gyda ni tan 1949. Gwnaeth Albert a Norman ddim aros yn hir cyn dychwelyd i Benbedw ond ddim cyn i Norman ddianc unwaith neu ddwy a chael ei ddal. Ar y llaw arall Rodney oedd yr hynaf o'r pedwar ac ar ôl gadael yr ysgol daeth yn bostmon yng Nghricieth.” (gweler y delweddau)

Gwnaeth rhai teuluoedd mwy cyfoethog drefniadau preifat. Mae Nesta Lloyd a gafodd ei magu ar y Maes, ac sy'n dal i fyw yno heddiw, yn cofio, “ Cafodd y t? lle rwy'n byw nawr ei rentu gan y teulu Collinson o Lerpwl. Crydd a gwerthwr esgidiau oedd y tad ac arhosodd gartref i redeg y busnes. Roeddwn i'n sâl iawn am ychydig a daeth David, y mab, â hwyaden degan fel anrheg sydd gen i rywle o hyd. Yn ddiweddar daeth g?r bonheddig i'r t? a David oedd o. Roedd yn pasio trwy Gricieth a daeth i ddod o hyd i'r t? yr arhosodd ynddo pan oedd yn fachgen. Mae bellach yn 87 oed ac yn edrych yn iach a heini iawn. Roedd yn cofio popeth, hyd yn oed yr hwyaden!” Buan iawn y daeth y plant i arfer â'i gilydd er bod addysg yn dioddef. Aeth y plant lleol i'r ysgol yn ystod y bore tra roedd y faciwîs yn mynd yn y prynhawn; yn newid drosodd bob wythnos. Symudodd un ysgol breifat (“Public”), King’s School, Caerwrangon i Gricieth yn ystod mis Medi, ar ôl i’r llywodraeth gymryd drosodd eu hadeiladau. Arhosodd yr athrawon a'r disgyblion yng Ngwesty Caerwylan, drws nesaf yng Nglanislwyn a Gwesty'r Pines (gweler y ddelwedd). Cynhaliwyd gwersi yn y “Towers” (24 Min y Môr). Ymunodd y bechgyn yn y gweithgareddau yn y dref gan gynnwys tri biwglwr o’u Corp Hyfforddi Swyddogion yn chwarae’r post olaf o falconi’r Neuadd Goffa ar ddydd Sul y Cofio. Mae Cricieth yn dref groesawgar ac yn ystod y dyddiau tywyll hynny agorodd y gymuned ei breichiau i'r hen a'r ifanc.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw