Delweddau o Flaenau Gwent, prosiect BG REACH 2021
Disgrifiadau
Cafodd y lluniau hyn o adeiladau hanesyddol ym Mlaenau Gwent eu tynnu gan y ffotograffydd o Lanhiledd, Linda Stemp. Maent yn dangos agweddau ar dreftadaeth y rhanbarth sy'n bwysig iawn iddi. Mae'r rhain yn ymwneud yn bennaf â hanes diwydiannol yr ardal. Mae Llun 1 yn dangos pen pwll glo Blaenafon, a gaeodd yn 1980 ond sydd bellach yn rhan o Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru. Mae Llun 2, yn dangos Sefydliad Glöwyr Llanhiledd, a adeiladwyd yn 1906 i rymuso'r dosbarth gweithiol, ac mae'n dal i fodoli fel lleoliad cymunedol heddiw. Mae Llun 3 a Llun 4 yn dangos adeilad arall, a gafodd ei adeiladu yn sgil y diwydiant, o onglau gwahanol. Cafodd Eglwys y Drindod yn Aberbîg, a adeiladwyd er mwyn gwasanaethu'r aneddiadau a dyfodd o amgylch Glofa'r Chwe Chloch, ei chwblhau yn 1909. Serch hynny, mae ei phensaernïaeth Gothig unionsyth yn atgof o'r Oesoedd Canol. Oherwydd hyn, mae'n crybwyll hanes hŷn, cyn y chwyldro diwydiannol. Mae dau lun olaf Linda yn dweud mwy am y thema hon. Mae Llun 5 yn dangos hen adeiladau fferm ar gyrion Llanhiledd, ac mae Llun 6 yn dangos crudiau colomennod yng Nglynebwy. Mae'r ddau lun olaf hyn yn atgof o orffennol cyn-fodern Blaenau Gwent, a daflwyd i'r cysgod gan newid diwydiannol, ond sy'n bresenoldeb grymus serch hynny i'r bobl sy'n byw yno.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment