Llythyr Diolch o gyfnod yr Ail Ryfel Byd
Disgrifiadau
Yn ystod y rhyfel, a chyn i U.D.A. ymuno, cafodd mudiad gwirfoddol Bundles for Britiain ei sefydlu gan Americanwr cefnog. Byddai cyflenwadau meddygol, bwyd, dillad ayyb yn cael eu hanfon i helpu dinasyddion Prydain. Ar y pryd roedd fy mam, yn wreiddiol o Brydain, yn byw yn Efrog Newydd, ac wedi ymuno gyda'r gwirfoddolwyr; byddwn innau hefyd, yn 4 oed yn mynd gyda hi ar ei dyddiau gwirfoddoli. Rhywbryd mae'n rhaid bod doli glwt wedi ei rhoi yn un o'r parseli, yn ogystal â fy enw i, a chafodd y parsel hwnnw ei anfon at Mr & Mrs Llewellyn a'u merch fach, Mair, yn y Rhondda. Doedd gan Mr Llewellyn ddim syniad o fy oedran ar y pryd, ond cyfeiriodd y llythyr ata i wedi iddyn nhw dderbyn y parsel. Dois o hyd i'r llythyr pan fu farw fy mam. Gwnaed pob ymdrech i geisio dod o hyd i ddeilydd yr hawlfraint; os oes gennych chi unrhyw wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment