Skip to main content

Cricieth - Y Garreg Orchest

Disgrifiadau

CRICIETH - Y GARREG ORCHEST.
Y tu allan i'r Neuadd Goffa mae clogfaen mawr sy'n pwyso tua 170kg. Pob blwyddyn, daw dynion cryf o bob rhan o Brydain i geisio ei godi i'w hysgwydd. Mae yna lawer o gerrig o'r fath ledled y wlad a thu hwnt. Fe'u gelwir yn Gerrig Orchest (Feat Stones). Yn wreiddiol roedd y garreg hon yn sefyll y tu allan i hen Neuadd y Dref, wrth droed y castell. Fe'i gelwid yn “Carreg Cam” sy'n awgrymu ei fod yn cael ei ddefnyddio i fowntio ceffylau. Ysgrifennodd Evan Hughes, a gafodd ei fagu ar Stryd y Castell cyn y Rhyfel Mawr, y byddai trigolion lleol yn dweud wrth ymwelwyr fod gan y garreg bwerau cyfriniol! Gelwid yr ardal honno “Y Dref”. Cynhaliwyd y farchnad a'r ffair yma, o'r sgwâr i lawr i Abermarchnad. Roedd o leiaf ddwy dafarn yn agos. Y maes bach o flaen Neuadd y Dref oedd lle'r oedd gweision fferm, chwarelwyr a morwyr yn hongian o gwmpas ac yn herio'i gilydd i godi'r garreg. Dywedwyd mai seiri maen oedd yn cael y llwyddiant mwyaf gan eu bod wedi arfer codi pwysau trwm.
Yn yr 1880au, roedd David Lloyd George yn byw yn Nheras Tanygrisiau a byddai'n pasio'r garreg bob bore ar ei ffordd i'r orsaf reilffordd ar gyfer ei drên i Borthmadog, lle'r oedd yn glerc cyfreithiwr. Cynhaliwyd cynulliadau ar y maes bach wrth ymyl Neuadd y Dref, ac yn ystod ymgyrchoedd etholiadol byddai'r darpar ymgeiswyr yn gwneud eu hareithiau yma. Efallai bod hyd yn oed Prif Weinidog y dyfodol wedi sefyll ar y garreg i annerch y bobl leol. Ym 1927 penderfynodd Cyngor y Dref “y dylid symud Carreg Cam o Neuadd y Dref i dir y Neuadd Goffa”.

Owner:
Cricieth Enwau Chwedlau a Chân Criccieth Songs Places and Legends
Crëwr:
Ffion Gwyn Robert D.Cadwalader
Gwybodaeth drwydded
Trwydded Archif Greadigol Creative Archive License
Eitem wedi’i llwytho:
28/7/2021
Date originally created:
28/7/2021
Gwelediadau:
1089
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment