Skip to main content

Prosiect Welsh Deaf Heritage - Technoleg a Chymdeithas yn y Gymuned Fyddar Heddiw (fideo 5)

Disgrifiadau

Dyma'r pumed o bum fideo thematig sy’n rhan o brosiect treftadaeth wedi’i ariannu gan y Loteri yn dwyn yr enw ‘A Deaf perspective of heritage starts at home’. Mae pob un o'r pum fideo yn cynnwys cyfweliadau un-wrth-un wedi'u golygu gyda nifer o bobl fyddar yng Nghymru, a recordiwyd yn 2021, yn Deaf Hub Wales, Canolfan Fyddar Caerdydd, 163 Heol Casnewydd, Caerdydd. Cynhaliwyd rhai cyfweliadau drwy Zoom oherwydd y cyfyngiadau teithio cyfnod y clo a achoswyd gan Covid-19. Mae enwau'r holl gyfweleion yn ymddangos ar y sgrin wrth i bob un gael ei gyfweld. Mae pob un yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn y cyfweliadau, a bydd capsiynau caeedig Saesneg yn cael eu hychwanegu cyn bo hir.

Yn y pumed fideo, sef y fideo olaf, mae cyfweleion yn myfyrio ar newidiadau technolegol a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar eu bywydau a'r hyn allai ei olygu i ddyfodol y gymuned  fyddar yng Nghymru. Roedd y rhai a gyfwelwyd yn byw mewn cyfnod cyn y rhyngrwyd a'r cyfryngau cymdeithasol ac felly'n gallu rhoi darlun gwerthfawr o fywyd pobl fyddar cyn y datblygiadau hyn. Ceir clip byr o gyfweliad ar effaith llafaredd (addysgu plant byddar drwy siarad a gwrando) ar iechyd meddwl pobl fyddar. 

 

Owner:
Deaf Hub Wales
Crëwr:
Deaf Hub Wales
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
12/7/2021
Date originally created:
12/7/2021
Gwelediadau:
553
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment