Prosiect Welsh Deaf Heritag - Y Gymuned Fyddar yn y gorffennol (fideo 4)
Disgrifiadau
Dyma'r pedwerydd o bum fideo thematig sy’n rhan o brosiect treftadaeth wedi’i ariannu gan y Loteri yn dwyn yr enw ‘A Deaf perspective of heritage starts at home’. Mae pob un o'r pum fideo yn cynnwys cyfweliadau un-wrth-un wedi'u golygu gyda nifer o bobl fyddar yng Nghymru, a recordiwyd yn 2021, yn Deaf Hub Wales, Canolfan Fyddar Caerdydd, 163 Heol Casnewydd, Caerdydd. Cynhaliwyd rhai cyfweliadau drwy Zoom oherwydd y cyfyngiadau teithio cyfnod y clo a achoswyd gan Covid-19. Mae enwau'r holl gyfweleion yn ymddangos ar y sgrin wrth i bob un gael ei gyfweld. Mae pob un yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn y cyfweliadau, a bydd capsiynau caeedig Saesneg yn cael eu hychwanegu cyn bo hir.
Yn y pedwerydd fideo mae pobl fyddar yn myfyrio ar eu bywydau yn y gorffennol. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai a gymerodd ran mewn cyfweliadau dros 50 oed gan ei bod yn bwysig i genedlaethau presennol ddeall sut beth oedd bod yn fyddar yn y gorffennol, yn enwedig pan oedd yr ysgol Fyddar a'r clwb Byddar yn ganolog i fywydau pobl fyddar. Er enghraifft, roedd plant byddar yng Nghymru weithiau'n mynychu ysgolion byddar i ffwrdd o'u cartref teuluol. Yn gyffredinol, roedd bywyd cymdeithasol yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau cymdeithasol Byddar, fel y rhai a gynhaliwyd yn y Clwb Byddar presennol ar Heol Casnewydd, Caerdydd.
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment