Welsh Deaf Heritage Project - Deaf education (video 1)
Disgrifiadau
Dyma'r cyntaf o bum fideo thematig sy’n rhan o brosiect treftadaeth wedi’i ariannu gan y Loteri yn dwyn yr enw ‘A Deaf perspective of heritage starts at home’. Mae pob un o'r pum fideo yn cynnwys cyfweliadau un-i-un wedi'u golygu gyda nifer o bobl fyddar yng Nghymru, a recordiwyd yn 2021, yn Deaf Hub Wales, Canolfan Fyddar Caerdydd, 163 Heol Casnewydd, Caerdydd. Cynhaliwyd rhai cyfweliadau drwy Zoom oherwydd y cyfyngiadau teithio cyfnod y clo a achoswyd gan Covid-19. Mae enwau'r holl gyfweleion yn ymddangos ar y sgrin wrth i bob un gael ei gyfweld. Mae pob un yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yn y cyfweliadau, a bydd capsiynau caeedig Saesneg yn cael eu hychwanegu cyn bo hir.
Mae’r fideo cyntaf yn cynwys myfyrdodau’r cyfweleion ar eu profiadau o'u haddysg, o dan y teitl Addysg Fyddar / Deaf Education. O ystyried nad yw ysgolion i’r byddar yn bodoli yng Nghymru, mae'r fideos hyn yn darparu darlun gwerthfawr o fywydau ysgol pobl fyddar yn ystod eu plentyndod, gan gynnwys yr ysgol breswyl i’r byddar yn Llandrindod. Mae yna hefyd rai clipiau o oedolion byddar a fynychodd ysgolion prif ffrwd. Mae'r cyfnod dan sylw yn rhychwantu’r blynyddoedd o'r 1940au i'r 1990au.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment