Cricieth – Enwau ar hyd y Draethlin
Disgrifiadau
Cricieth - Enwau ar hyd y Draethlin. Mae glan y môr Cricieth yn gorwedd rhwng dwy nodwedd naturiol: ceg Afon Dwyfor a'r Graig Ddu i'r dwyrain. Mae'r pentir amlwg y saif y castell arno yn ei rannu'n ddwy sector. I'r gorllewin mae'n cynnwys traethau creigiog a cherrig mân gyda chlogwyni clai. Ar lanw isel mae mwy o greigiau a chlogfeini iw gweld. Yn union i'r gorllewin o graig y castell mae morglawdd sy'n rhoi rhywfaint o gysgod. Tu drawr esplanad Fictoraidd mae clogwyni clai eto. Ar lanw isel mae mwy o greigiau iw gweld. Mae digon o ofodau clir bob ochr i'r castell i ddarparu traethau ar gyfer ymdrochi ac er mwynhad pobl ar eu gwyliau. Mae'r deunydd sy'n erydu i ffwrdd o'r clogwyni hyn yn cael ei gludo ar hyd y draethlin tuar dwyrain i ffurfio banc graean hir o'r enw'r Heraig neu'r Neraig. Mae'r banc hwn, dros y canrifoedd, wedi cau cilfach i'r môr o'r enw Llyn Ystumllyn heddiw. Daw'r banc graean i ben yn sydyn gyda phentir y Graig Ddu. Y tu hwnt iddo mae traeth hir tywodlyd.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment