arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Delwedd 1:Download link to the full resolution of image number 1
full resolution of image 1
Delwedd 2:Download link to the full resolution of image number 2
full resolution of image 2

Disgrifiad

Yn yr hen amser nodwyd diwedd yr haf a dyfodiad tywyllwch y gaeaf ar y 1af o Dachwedd fel 'Gŵyl Calan Gaeaf'. Roedd hwn yn amser prysur; gorffennwyd y cynhaeaf ac roedd yn amser dod â'r anifeiliaid i lawr o'r porfeydd yn y bryniau. Roedd yn gyfle i'r werin ymgynnull a chynnwyd coelcerthi mewn lleoedd amlwg y noson ymlaen llaw.

Roedd pob agwedd ar fywyd yn y cymunedau gwledig yn cael ei lywodraethu gan draddodiadau ac ofergoelion a dathlwyd hyn fel diwedd yr hen flwyddyn a dechrau'r flwyddyn newydd. Dechreuodd y noson mewn modd ysgafn gyda Noson Lawen fel y disgrifiwyd gan John Lloyd Williams, y cerddor a chasglwr caneuon gwerin adnabyddus, yn y sonata 'Nos Calan Gaeaf' a gyfansoddodd. Pan ymgasglai'r bobl yn y ffermdy yng Ngarndolbenmaen cenid y cytgan agoriadol ar y gainc 'Pant Corlan yr Ŵyn':

Wel dyma Nos Galan gaeaf lon,
Henafol ŵyl am hwyl yw hon,
Ni bu eu bath ers blwyddyn gron
Y difyr gwmni di-feth.

O sŵn brefiadau'r defaid mân,
Ymunwn heddiw'n ddiwahân,
Yn fechgyn llon a merched glân,
I roi'r Eryri deg ar dân,
A nwyd ein cerdd a nodau cân,
A'r eco ddaw o Gricieth.

Byddai llawer mwy o ganu a difyrrwch traddodiadol fel codi afalau o bowlen. Goleuwyd coelcerth a chasglodd pawb o'i chwmpas. Un traddodiad oedd taflu cnau i'r fflamau a dehonglwyd sut roedden nhw'n llosgi. Pe bai'r gneuen yn llosgi'n llachar byddai'r person yn cwympo mewn cariad ac yn priodi. Pe bai'r gneuen yn gwneud crac uchel byddai'r person yn cael lwc ddrwg. Chwaraewyd triciau a chyflawnwyd  pob math o ddireidi. Chai'r werin amser pleserus ond, wrth i'r tywyllwch dynnu i mewn ac wrth i'r goelcerth ddechrau marw allan, byddai'r awyrgylch yn newid.

Taflwyd cerrig wedi'u marcio i'r fflamau; pe na baent yn dod o hyd iddynt ymysg y lludw yn y bore byddai'r person a'i taflodd yn marw'r flwyddyn honno. Roeddent yn credu bod ellyllon, bwbachod, bwganod, tylwyth teg, ysbrydion a bwystfilod goruwchnaturiol eraill wedi dod allan o'r Annwn ac yn crwydro cefn gwlad, yn enwedig disgwyl ar groesffyrdd a chamfeydd am deithwyr anwyliadwrus er mwyn eu traflyncu neu ddwyn eu heneidiau. Un o'r bwystfilod brawychus hyn oedd yr 'Hwch ddu gwta' a oedd weithiau yng nghwmni menyw heb ben. Mae'r creaduriaid hyn yn ymddangos mewn straeon o bob rhan o Gymru. Yn ôl Myrddin Fardd (John Jones) y gof a'r hynafiaethydd o Chwilog arferai pawb ganu'r pennill canlynol:

Hwch ddu gwta
Ar ben pob camfa
Bob nos G'langaua'.

Ar ben pob camfa
Hwch ddu gwta
Gipio yr ola'.

Gan olygu bod yr Hwch Ddu Gwta yn disgwyl ger pob camfa ac y byddai'n cipio ac yn traflyncu'r un olaf i adael. Wrth gwrs rhuthrai pawb adref mewn dychryn mawr rhag ofn mai nhw fyddai'r diwethaf! Ddwy neu dair canrif yn ôl trosglwyddodd Calan Gaeaf i Ogledd America a daeth yn ôl yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar ôl cael ei Americaneiddio fel Halloween. Drigain mlynedd yn ôl nid oedd pwmpenni a 'Trick or Treat' yn gyffredin yn Eifionydd; yn lle hynny câi wynebau eu cerfio ar faip.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw