Pobl Cymru 2021 - Kelzey Gough
Disgrifiadau
Gyda chyfyngiadau'n dechrau codi yn ystod pandemig Covid-19, mae pobl yn cael mentro ymhellach o'u hardaloedd lleol. Drwy gydol hanes mae traethau Cymru wedi bod yn gyrchfan boblogaidd ymhlith y cyhoedd ac o ganlyniad yn dod yn rhan o ddiwylliant Cymru. Mae'r casgliad hwn o ddelweddau yn cofnodi sut mae pobl yn treulio eu hamser ar lan y môr gan fod llai o gyfyngiadau cyfnod y clo mewn grym erbyn hyn.
Fel rhan o Brosiect Ymarferol y Diwydiannau Creadigol, bydd y myfyrwyr Gradd Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yng Ngholeg y Cymoedd yn cyfrannu at archifau Casgliad y Werin Cymru i helpu i ddarparu gwell dealltwriaeth o Bobl yng Nghymru'r 21ain Ganrif. Y nod yw cael myfyrwyr i gydnabod eu hetifeddiaeth o fewn Ffotograffiaeth yng Nghymru ond hefyd i ddangos yr hyn mae Pobl Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain yn ei gynrychioli.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment