Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r cyfweliadau a gynhaliwyd gydag amrywiaeth o ferched wedi tynnu sylw at y ffaith mai'r effaith fwyaf ar eu bywydau, yn bendant, oedd y system addysg. A hwythau wedi eu geni yn y cyfnod hwnnw yn union wedi'r rhyfel pan oedd y system addysg yn cael ei diwygio, roedd y cyfweledigion un ai yn cwympo i mewn i system dair haen o ysgol uwchradd fodern, ysgol ramadeg, ysgol dechnegol, neu'r categori ysgol gyfun. Dechreuodd y system ysgol gyfun yn 1965, sy'n golygu bod y rhai gafodd eu geni yn 1954 neu wedi hynny wedi mynychu ysgol gyfun, tra bod y rhai oedd wedi eu geni cyn 1953, wedi mynychu un ai ysgol uwchradd fodern, ysgol ramadeg neu ysgol dechnegol.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw