Skip to main content

Cricieth - Pencei a'r harbwr

Disgrifiadau

Roedd craig y castell yn cysgodi rhag y prif wyntoedd. Llusgwyd y clogfeini mawr i un ochr i ffurfio morglawdd lle byddai cychod pysgota a llongau arfordirol bach yn glanio ar lanw uchel. Ym 1890 gosodwyd y garreg sylfaen ar gyfer harbwr newydd a oedd yn rhan o gynllun uchelgeisiol gan Syr Hugh Ellis Nanney i adeiladu porthladd. Byddai'r brîf forglawdd wedi ymestyn o ddiwedd craig y castell. Methodd “Cwmni Pier a Harbwr Cricieth” â chodi digon o gyllid a rhedodd allan o arian gyda dim ond hanner y pier mewnol llai wedi'i adeiladu. Dyna sut y mae heddiw er gwaethaf llawer o ymdrechion gan y pysgotwyr, cychwyr, David Lloyd George'r AS lleol, a chyngor y dref i'w gwblhau, hyd at y cyfnod diweddar. Rhoddodd y morglawdd, neu'r “Cob”, rywfaint o ddiogelwch i'r ardal a elwir yn “Pencei”. Roedd hwn yn lle prysur iawn. Adeiladwyd o leiaf dwsin o longau bach yma ar ddechrau'r 19eg ganrif. Byddai'r smaciau masnachu a'r sgwneri eiddo yn lleol yn cymryd llechi o Draeth Mawr, ac yn ddiweddarach Porthmadog, o amgylch yr arfordir a dychwelyd gyda chalchfaen, glo a nwyddau eraill a glanio ar lanw uchel i'w dadlwytho. Glaniodd cychod pysgota eu dalfeydd; byddai'r penwaig a'r macrell yn cael eu mygu neu eu piclo mewn casgenni o halan a'u cymryd gyda cheffyl a throl cyn belled â'r Bala. Byddai gwragedd yn prynu pysgod ac yn eu cludo o amgylch y dref a'r ardal i'w gwerthu. Yn y 1850au cyrhaeddodd y bad achub cyntaf a chadwyd hi mewn cwt ar Pencei. Criw'r bad achub oedd y pysgotwyr, y cychwyr a'r morwyr adref ar seibiant. Byddai pawb yn helpu i lansio'r cwch gan gynnwys y merched. Mewn amseroedd tawel, ar ddiwrnodau braf, byddai pobl yn ymgynnull yma i drafod newyddion lleol a byddai'r morwyr yn adrodd celwyddau golau am y llongau yr oeddent wedi hwylio arnynt a lleoedd y buont. Mae'r paentiad hwn o Pencei gan William Cadwalader (1879-1962) yn cofnodi digwyddiad ar ddechrau'r 20fed Ganrif lle mae penwaig yn cael eu dadlwytho o'r cychod a'u piclo mewn casgenni. Mae'r llun gwreiddiol yn hongian yn Ysgol Treferthyr, Cricieth.

Owner:
Cricieth Enwau Chwedlau a Chân Criccieth Songs Places and Legend
Crëwr:
Robert D.Cadwalader
Gwybodaeth drwydded
Trwydded Archif Greadigol Creative Archive License
Eitem wedi’i llwytho:
8/6/2021
Date originally created:
8/6/2021
Gwelediadau:
872
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment