arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Delwedd 1:Download link to the full resolution of image number 1
full resolution of image 1

Disgrifiad

Cricieth - Y Tân Rhyfedd. (Allan o’r “Y Gestiana” gan Alltud Eifion) “Will o the Wisp”, Jack o Lantern neu Marsh Gas Bu ym Morfa Bychan (yn ôl yr hanes), ac yn symud i sir Feirionydd bryd arall, dân rhyfedd yn y flwyddyn 1693. Oddeutu'r gwyliau yr ymddangosodd, a llosgodd ar y 24ain o Ragfyr, ddas o wair i Richard Davies, Erw Wen; un i Richard Griffith, Llechwedd Dû ac un i Humphrey Owen, y Garreg Wen y Gest. Ar noson y 27ain y llosgodd das wair i John Philips, Ynys Llanfihangel a dwy das i John Griffith Owen Cefn Trefor Bach, dwy das i Catherine Williams, Cefn Trefor Fawr, ac un i Francis Evans, Glasfryn. Ar ôl hynny, llosgodd beudy, ac ynddo lawer o wair i Richard Davies o’r Erw Wen. Bu effaith y tân mor niweidiol a gwenwynig ar Dyddyn Sïon Wyn dros dair blynedd nes y byddai farw pob creadur a borai arno, yn ogystal â’r adar a fwytaent ar hyd-ddo. Math o darth tanllyd ydoedd ac yn codi o’r corsydd gwlybion tywodlyd yn y Morfa Bychan ac yn croesi y Traethi Ynys Llanfihangel, Morfa Harlech, a glan y Traeth Bach. Yr ydoedd yn bur ddyeithrol, ac yn peri syndod a braw. Rhyw fflam las fechan ydoedd yn ymddangos yn hawdd ei ddiffodd tebygid; ac ni wna i ni wedi sawl a fyddai yn ei ganol yn ymdrechu rhwystro'r gwair ar dân. Yr oedd yn wahanol iawn yn ei natur i dân arall a’r distryw a wnaeth fyddai yn y nos. Bu farw gwartheg, ceffylau, geifr, moch ac ati gan y gweddillion a adawodd ar y ddaear, a pharhasant i farw felly am hir amser.

O’r diwedd canfuwyd fod sŵn yn effeithio arno; a phan welid y tân yn dechrau, casglwyd pawb at ei gilydd a chenid cyrn, curid tabyrddau, a saethid gynnau a pharai'r sŵn a’r cynnwrf i ddod y chau’r awyr fel na wnaed niwed. Ychydig o golledion a gaed wedi cael y ddyfais hon; ond bu’n ymddangos am gryn amser ar nos Sadyrnau a nos Suliau. Cred y bobl y pryd hynny oedd, mai'r tyddynwr oedd yn byw yn Nhyddyn Sïon Wyn, yr hwn a droesid allan, ac a melltithiodd, neu a witsiodd y fan!! Daliwyd a dygwyd ef o flaen yr Ustus, ond nid oedd yr un yn nes na Phenarth, neu'r Wern Fawr yn Sir Gaernarfon; ac wrth fyned ag ef, gorfu’r cwnstabliaid (Rowland Pritchard, yr Ynys Du oedd un ohonynt) letya yn Llanystumdwy, a dihangodd yntau drwy ffenestr y nos honno ac ni welwyd ef mwy. Barn yr hanesydd Thomas Pennant, yn y flwyddyn 1781, oedd i’r tân hwn gael ei achosi gan haid o locustiaid a chwythwyd gan storm o’r gorllewin, a boddasant, ac a ddaethant i’r lan ym Morfa Bychan. Dechreuodd eu cyrff i bydru achosi nwy gwenwynig i godi ac yna yn mynd ar dân.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw