Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Roedd Annie Williams [4ydd ar hyd y rhes gefn] yn fyfyriwr ar y cwrs amaethyddiaeth blwyddyn o hyd, yn ystod 1950-51. Ar ôl iddi adael Llysfasi, aeth Annie i weithio ar Fferm Ddol, yn Llansannan, lle'r oedd yn gwneud caws, menyn ac ati. Daeth i'w hadnabod fel 'Annie Ddol’ a daliodd i weithio yno nes iddi briodi, pan symudodd i'r Bala. Yno bu'n rhedeg Caffi'r Cyfnod am flynyddoedd cyn ymddeol. Bu farw yn Ionawr 2017 a chafodd ei llwch ei wasgaru, yn  ôl ei dymuniad, ar fryniau Hiraethog, ardal oedd yn agos iawn i'w chalon.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw