arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Delwedd 1:Download link to the full resolution of image number 1
full resolution of image 1

Disgrifiad

Cricieth - Y Pibydd, y Crythor a’r Pibydd Codog.

Yng ngilfach ar lan y môr yn agos i Gricieth ceir ogof ddu. Weithiau rhoddir lleoliad yr Ogof Ddu fel ger Traeth Graigddu neu'r ogof hanner ffordd ar hyd yr Heraig rhwng Cricieth a'r Graig Ddu. Ceir nifer stori ddifyr am yr ogof hon. Pan fydd y llanw allan, rhedai pistyll fel ffos allan ohoni 1 Yn ôl yr hanes bu gwledd a dathliadau mawr yn Llys Bronyfoel mawr ar gyrion Cricieth, ac ar ddiwedd y noson daeth y cerddorion ynghyd i sgwrsio hefo’r gwesteion. Daethant i’r casgliad ei bod am ffoi i fyd arall; byd y Tylwyth Teg, ble fedrant ffeindio’i ffortiwn. Felly'r noson honno, aeth y tri cherddor gyda’i offerynnau i mewn i’r Ogof Ddu ger Cricieth, ble roedd yna sibrydion bod yna lu o drysorau a chyfoeth. Chwaraeodd y tri gân werin ar eu hofferynnau wrth chwilio am fyd y Tylwyth Teg, yn chware’u eu hofferynnau gwerin- Y Crythor, Y Pibydd a’r Corniwr. Clywir eu halawon swynol hyd heddiw wrth geg yr Ogof Ddu yng Nghricieth. 2 Yn ôl fersiwn arall o’r stori, aethant trwy’r ogof at dwnnel hir 4 milltir o hyd, gan ddod allan ym Mhennant, mewn lle a’i gelwid hyd heddiw yn ‘Pipers Arms’. Mae’r ogof yno ar ben y daith yn cael ei adnabod fel Ogof Owain Glynd?r yng Nghwm Pennant. Galwyd y tirffurf ar ben draw'r twnnel ym mraich y pibydd, a cheir enw hyd heddiw Traian, Braich y big (Braich y Bib). 3 Yn ôl un fersiwn o’r stori arhosodd y tri yng ngwlad y Tylwyth Teg, ac nid oedd modd iddynt ddychwelyd i’r tir byw. Adroddwyd stori gan fugail o Gefn Coch oedd yn bugeilio ar ochrau Moel Hebog, pan glywodd sain pib yn canu tôn swynol, y tlysaf a glywodd erioed, ac wrth iddo ef chwilio o ble oedd y s?n yn dod, daeth at agen yn y graig ac wedi bloeddio, clywodd lais o’r graig yn ei ateb, ac adroddodd i’r bugail beth a ddigwyddodd iddynt. Ac ni can byth ddyfod yn ôl i’r tir. Roedd y bugail yn gerddor da, ac felly dysgodd y don, a’i alw yn ‘Fanod Dic y Pibydd’. Alawon Gwerin Yn ôl yr hynafiaethydd Edward Llwyd, cafodd y diwn ‘Ffarwel i Dic y Pibydd’ ei ysbrydoli gan y storiâu hyn. Ceir hefyd alawon am Ned Puw ‘Ffarwel Ned Puw’ a ‘Fanod Dic y Pibydd’, ‘Erddigan y Pibydd Coch’ sy’n gysylltiedig â’r stori werin.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw