Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth – Yr Efail

Yn y cyfrifiadau cynnar cawn weld bwthyn o’r enw “Hen Efail” yn agos i'r castell yn yr Hen Dref, tu ôl i’r sgwâr. Mae hyn yn gwneud synnwyr oherwydd yma roedd ganol y dref yn y canol oesoedd. Ar ôl i’r Briffordd gyrraedd mae’n edrych bod gefail wedi’i sefydlu rhywle o gwmpas y Gwesty George. Tua 1855 symudodd y gof, Ifan Ellis, i “Y Cwrt” ac adeiladodd ei efail drws nesa a dyma ble mae hi'n sefyll heddiw. Roedd o leiaf pedwar cenhedlaeth o’r teulu yma’n gofaint. Bu’r olaf, Ellis Gof, farw yn 1948.

Ysgrifennodd y Capten W.E.Williams “Wasi” am ei blentyndod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. “Ar draws y bont, dros y nant roedd yr efail a redwyd gan Robin Gof a’i gyd-weithiwr Sam. Y tu allan i'r efail roedd erydr yn aros i gael eu hatgyweirio ac ambell giât haearn. Yn y dyddiau hynny nid oedd weldio wedi cyrraedd cefn gwlad. Y tu mewn roedd y peiriant drilio wedi'i droi gan olwyn fawr ac yn y gornel bellaf roedd y lle cafodd y ceffylau eu pedoli. Pan oedd hi'n amser y flwyddyn i chwarae gyda chylchoedd roedden ni'n arfer poeni'r gof i wneud cylchoedd a ffyn i ni i'w rhedeg.”

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw