Cricieth - Hen Gadwalad Braich y Saint; Cadwalader Jones Braich y Saint
Disgrifiadau
Cricieth - Hen Gadwalad Braich y Saint
Cadwalader Jones 1791 1871.
Efallai eich bod wedi clywed y gerdd neu'r gân am Hen Gadwalad o fferm Braich y Saint ond a oeddech chi'n gwybod bod llong wedi'i henwi ar ei ôl? Hwn oedd y sgwner fach Cadwalader Jones, a adeiladwyd ym Mhorth y Gest. Buddsoddodd aelodau o'i deulu, o Braich y Saint a Pen y Bryn yng Nghricieth, yn y llong. Ei nai John Cadwalader o Salem Terrace, Cricieth, oedd y prif berchennog a'r Capten. Dyma'r gerdd gan Robert Williams, 'Robin Fawr o Fynytho', ac yna stori am y llong.
Fe ddaeth yr hen Gadwalad'
Ar gefn 'i geffyl glas,
O Griciath i Bwllheli
I g'logi pedwar gwas.
Daeth ataf yn bur addfwyn
A'i wep yn wên i gyd,
A ch'logais gan lwyr gredu
Cawn i fistar clenia'r byd.
Yn fora ar ddydd Gwenar
Cychwynnais tuag un,
i weini i Eifionnydd,
Gan adael ardal Ll?n
I lecyn bach godidog
A'i enw Bach-y-Saint,
Bûm yno am rai dyddiau,
Does achos enwi faint.
Y gelltydd oedd yn sythion
A'r cryman yn ddi-fin,
A fynta'r hen Gadwalad'
G?r anodd iawn 'i drin.
Fe godai yn y bore
A'i lepan gyda'r gwynt,
Gan weiddi,
'Codwch hogia,
Mae hi'n chwartar wedi pump.'
Ar ôl i'r hogia godi
A mynd â'r 'ffyla i'r d?r,
A dyfod yn 'u hola,
Cânt botas, blawd a d?r.
Fe ordrai bawb i weithio,
Gan redeg fel ar ras,
Ond un felly oedd Cadwalad',
G?r calad wrth 'i was.
Mi gês fy magu gartra,
Ni chês i 'rioed ddim nych,
Ym Bach-y-Saint eleni
Rwy'n byw ar fara sych;
Hen bennog ar yr efal
A hwnnw'n ddrwg 'i flas,
Ond mi wyddoch am Gadwalad',
G?r calad wrth 'i was.
Ym Mach-y-Saint annifyr
Mae gwely trwmbal trol
Lle bûm i'n treio cysgu
Ar hanner llond fy mol.
A chig yr hen hwch focha
Yn weidin a di-flas,
Ond fe wyddoch am Gadwalad',
G?r calad wrth 'i was.
Ffarwel i dynnu rwdins,
Ffarwel i'r gaib a'r rhaw,
Ffarwel i'r gaseg dena',
Sy'n gorwedd yn y baw,
Ffarwel i'r tarw penwyn,
Ffarwel i'r ceffyl glas,
Ffarwel i'r hen Gadwalad',
G?r calad wrth 'i was.
Y Llong.
Yn ei hunangofiant " Llongwr o Roslan " mae John Jones Williams yn rhoi disgrifiad bywyd a'r amodau gwael ar y sgwneri bach o Borthmadog. Wedi bod cartref am sbel cefais waith ar y sgwner "Cadwalader Jones" ym Mhorthmadog. Hen ?r mewn tipyn o oed oedd y Capten, John Cadwalader, dyn caled a chynnil iawn. Byddai bob amser yn dweud y drefn bod gormod o de neu fara'n cael ei defnyddio, a phrin iawn oedd y bwyd bob amser. ......Cofiaf yn dda fynd i lawr i'w caban y tro cyntaf a rhyw aroglau cryf yn dod o rywle. Bwcedaid o fargarin oedd yno, yr 'hen ddyn' wedi ei chael yn r
wedi gweld margarin cyn hynny a dyna be gawsom tra buom ar y llong, ac er gwaethaf yr aroglau ofnadwy oherwydd bod y margarin wedi toddi ryw dro ac wedi fferru wedyn, yr oeddwn yn byw ac yn twchu ar fargarin a bara caled. .... Ein hof bleser fyddai dal mecryll, ac yr oeddem yn od o lwcus. Pan ofynnais i'r hen gapten beth wnawn i frecwast, ei ateb oedd 'Dal mecryll y gwnaent nhw', a mecryll fyddai i frecwast ac i de.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment