Skip to main content

CRICIETH – Senedd Pont y Cwrt

Disgrifiadau

CRICIETH – Senedd Pont y Cwrt.
Mae'r bont yn lle prysur lle mae pobl yn stopio i sgwrsio. Yn y dyddiau a fu, byddai'r dynion yn ymgynnull yno i drafod digwyddiadau lleol a datrys problemau'r byd. Cyhoeddwyd yr erthyglau isod, a ysgrifennwyd o dan y pennawd “Senedd Pont y Cwrt”, mewn papur newydd wythnosol yn ystod y Rhyfel Byd Gyntaf. Fe'u hysgrifennir mewn arddull doniol ond weithiau gydag islais difrifol. Nid yw'r awdur yn hysbys ac mae'n llofnodi ei enw “Gohebydd”. Roedd y “Y Genedl Gymreig” yn bapur newydd wythnosol Cymraeg a gefnogai egwyddorion radicalaidd. O 1892 ymlaen bu'n gefnogol i'r Blaid Ryddfrydol. Dyma dri dyfyniad byr. Mae'r erthyglau gwreiddiol yn hirach ac yn werth eu darllen ar wefan Papurau Newydd Cymru - Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/ SENEDD PONT Y CWRT (sic). CORN GWDDF ALARCH.- Pan oedd Senedd Pont y Cwrt ar ymgynnull y tro diweddaf aeth yn gyffro anghyffredin ym mysg yr aelodau, wrth i rhywun ddweud fod submarine Almaeneg wedi cael ei weled yn mae Afon Wen. Torrodd y cyfarfod i fyny mewn munud ac aed i holi am y newydd diweddaraf. Sicrhawyd bod boneddwr neilltuol wedi gweld periscop y llong danfor wrth ymyl Afon Wen. Gwnaed ymchwiliad diymdroi i'r mater, ac yn y man dyma sicrwydd mai wedi gweled corn gwddf alarch mawr yn nofiai yn y bau yr oedd wedi ei weld. Wrth gwrs da oedd hyn, ond nid oedd modd cynnal y cyfarfod y diwrnod hwnw gan bod gymaint o son am yr alarch a'i gorn gwddf. “SENEDD PONT Y CWRT (sic). - Y Capten: Does dim miwsig iawn yma'r dyddiau hyn, gyfeillion. Nid oes yma ganu ar na môr na thir y r?an.-Y Siopwr: Pa beth ydych chwi yn feddwl am ganu ar y môr, capten?
-Y Capten: Onid ydych chwi yn cofio am y dyn hwnnw beth amser yn ôl a rwystrwyd i ganu ffliwt ym Marine Terrace gan yr awdurdodau, ac a aeth i'r môr hyd at ei ysgwyddau ac a ganodd ei ffliwt yno?-Y Siopwr: 0, ydwyf. Peth ffôl oedd yr helynt hwnnw.-Y Pysgotwr: Does yna ddim canu chwaith yn y pafiliwn. - Y Cychwr: Byddai bandiau Almaeneg yn dyfod yma ers stalwm. Mae'r rhai hynny wedi diflannu r?an -Yr Eglwyswr: Bydd Mr Oldfield yn chwarae'r organ yn yr Eglwys acw ac yn cynnal organ recitals.-Y Groser: Welsoch chi 'rioed mo'r gwas bach acw allan hefo'r tryc na, fydda fo yn canu "Tipperary" a’i holl egni.” “SENEDD PONT Y CWRT (sic). Y Llefarwr: Pobol ryfedd ydi aelodau'r Cownsil yna. Gwelais yn ddiweddar eich bod chi wedi bod yn deud mai Saesneg fydda nwy’n siarad, heblaw un - a Sais oedd hwnnw. Ond, yn wir i chi, 'dw’n i ddim be' fydda hwy’n siarad. Dyma i chi enghreifftiau o fel y bydda hwy’n siarad “ Fe ddyla’ hwn fynd i'r Ffinans”, “Busnes y Road a'r Bildin ydi'r busnes yna ac nid un y Wotar”. “Mi fu’r cwestiwn o flaen y General Purpose ond wnaed dim heb i'r Sanitary ei ystyried o”, “Rhaid rhoi notis o moshion cyn y gellir proposio amendment fel yna yn y standing orders”, “A ydi o mewn ordor yn discussio tendar heb ei hacseptio?” Gyfeillion bach, mae iaith fel hyn yn gywilyddus i ni fel trefwyr. Tydi'r iaith ddim cig, na physgodyn, na phennog coch - " gibberish" ofnadwy ydi hi. Rhaid inni basio Mesur yn si?r i rwystro pobol fynd ar y cyngor i siarad y fath iaith lobscowsaidd”.

Owner:
Cricieth Enwau Chwedlau a Chân Criccieth Songs Places and Legends
Crëwr:
Robert D.Cadwalader Jean Emberton
Gwybodaeth drwydded
Eitem wedi’i llwytho:
10/5/2021
Date originally created:
10/5/2021
Gwelediadau:
505
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment