Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

Cynhyrchwyd y gyfres o ffilmiau byr gan Made In Tredegar sy’n canolbwyntio ar adeiladau eiconig ym Mlaenau Gwent. O Dafarnau a Llety, i Leoedd Addoli, cynhyrchu Diwydiannol a Chyfarfodydd Cymdeithasol. Gan weithio gydag ymddiriedolaeth Troedrhiwgwair, rydym yn hapus i ddangos chi’r trydedd raglen mewn cyfres o dri ar y pentref anhygoel.

Unwaith roedd y pentref Troedrhiwgwair yn gymuned ffyniannus ar ochr y mynydd o dan Tredegar. Gyda thros 96 o dai, eglwysi, tafarn, swyddfa bost a mwy, tybiai pawb y byddai'n parhau yno am byth. Yn anffodus,  oherwydd ofnay y byddai’r mynydd tu ôl y pentref yn symud, mynnodd y cyngor lleol bod y trigolion yn symud mas fel bod y pentref i gyd yn gallu cael ei ddymchwel. Dyma stori'r rhai wnaeth ymladd i aros yn eu tai.

Cafodd y prosiect yma ei gefnogi gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Cadw. Wedi’i greu gan bobl Blaenau Gwent a Gwirfoddolwyr Made In Tredegar. Mae isdeitlau Saesneg a Chymraeg ar gael trwy’r nodwedd isdeitlau ar YouTube.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw