Cricieth - Y Forforwyn
Disgrifiadau
Cricieth - Y Forforwyn
Un tro, amser maith yn nôl, nepell ar hyd yr arfordir o Gricieth, roedd dyn ifanc or enw Gruffydd yn byw. Roedd yn cael ei adnabod fel Guto Tyddyn Morlais ac nid oedd yn ddyn cyfoethog. Roedd ei rieni wedi marw ac roedd yn unig iawn. Dim ond dau gae bach oedd yn berchen arno lle'r oedd yn tyfu llysiau, yn cadw mochyn, ieir a dwy fuwch. Rhedodd un cae i lawr i'r môr lle storiodd ei gwch rhwyfo. Bob bore byddai'n codi ei rhwyd a chewyll cimychiaid. Un bore fe welodd ferch ifanc yn eistedd ar graig a rhwyfodd drosodd ati a gweld er syndod iddo ei bod yn forforwyn. Dywedodd hi wrtho ei bod yn dod allan o'r môr amser lleuad lawn pan oedd y llanw'n isel i gael golwg ar y bobl ar y tir. Ar y lleuad lawn nesaf aeth Guto allan eto a pob llanw isel iawn wedyn roedd yn edrych ymlaen at ymweld â hi. Fe wnaethon nhw syrthio mewn cariad ac ar ôl carwriaeth hir priodon nhw. Yn fuan wedi hynny ganwyd mab iddynt a dros y blynyddoedd tyfodd y teulu i ddeg o blant, pob un yn fechgyn. Nid oedd digon o dir i'w cadw felly aethant i gyd yn forwyr ar y llongau bach oedd yn dod â chalchfaen a glo ar gyfer yr odyn a grawn i'r felin yng Nghricieth. Pan oedd llong yn agosáu gydag un oi meibion, byddair gwylanod yn hedfan ymlaen i Tyddyn Morlais i adael i Morwen, oherwydd dyna oedd ei henw, wybod a byddain nofio allan iw groesawu. Mae môr-forynion yn byw bywyd hir iawn ac yn y diwedd bu farw Guto a'r meibion i gyd ac oherwydd unigrwydd penderfynodd Morwen fynd i fyw yn ôl yn y môr. Pob llanw isel byddai'n dod i eistedd ar y graig a gwylio pobl Cricieth yn mynd o gwmpas eu busnes. Ar nosweithiau tywyll, stormus pan allai llongau gael eu dryllio ar graig y castell byddai hi'n nofio allan ac yn eu rhybuddio eu bod mewn perygl.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment