Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Cricieth - Yr Hen Neuadd y Dref

Bu adeiladau wrth droed y castell ers y canol oesoedd. Heddiw mae'n ganolfan wybodaeth CADW. Yr adeilad cyntaf a enwyd oedd “Beudy Degwm” (Tithe Barn). Dyma le'r oedd pobl yn dod ag anifeiliaid a chynnyrch fel taliad degwm i'r eglwys. Mae sôn amdano hefyd fel “Neuadd y Gild”. Gallai hwn fod wedi bod yn adeilad ar wahân neu'n gyfagos. Dyma oedd ei enw ymhell i'r 19eg ganrif pan gyfeiriwyd ato'n fwy cyffredin fel “Neuadd y Dref” a dyma le'r oedd canolfan weinyddol y fwrdeistref. Ar yr adeg hon roedd rhan yn cael ei rhentu fel ysgol. Yn ystod y 1860au adeiladwyd estyniad ar gyfer ceidwad y castell. Cymerodd yr eglwys brydles i gynnal Ysgol Genedlaethol ac adeiladu estyniadau ac adeiladau allanol pellach. Pan adeiladwyd yr Ysgol Fwrdd newydd cymerasant hwn drosodd ac roedd rhai dosbarthiadau yn dal i gael eu cynnal yn y neuadd hyd at yr Ail Ryfel Byd. Cynhaliwyd cyfarfodydd y Cyngor yn y neuadd hyd at y 1920au. Ar ôl i'r Neuadd Goffa gael ei hadeiladu ym 1925 symudwyd y byrddau biliards yno o'r ystafell uwchben y llyfrgell a ddaeth wedyn yn Siambr y Cyngor. Yn 1927, ar ôl y storm ofnadwy, roedd rhai o drigolion Abermarchnad yn cael eu cartrefu yn hen Neuadd y Dref nes i gartrefi newydd gael eu hadeiladu yn Heol Henbont. Yna defnyddiwyd y Neuadd at wahanol ddibenion - cyfarfodydd, darlithoedd, sioeau, cyngherddau, dramâu amatur ac ati. Rhwng 1963 a 1976 dyma oedd cartref “Y Gegin” a oedd yn feithrinfa i rai personoliaethau theatr ac adloniant adnabyddus megis W.S.Jones, Stewart Jones a Meic Povey. Yna daeth o dan berchnogaeth CADW.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw