Cricieth - y Promenâd
Disgrifiadau
Cricieth - y Promenâd
Un or prif dirfeddianwyr yr ardal oedd Hugh Ellis-Nanney or stad Gwynfryn. Maen edrych roedd ganddo uchelgeisiau i ddatblygu ochr dwyreiniol fel tref glan y môr Fictoraidd fel roedd yr Arglwydd Mostyn wedi gwneud yn Llandudno. Cynigiodd i adeiladu promenâd ar gost ei hun yn gyfnewid am amryw ddarnau o dir. Gosodwyd y garreg sylfaen yn 1883 a drosglwyddwyd y promenâd newydd ir Bwrdd Lleol yn 1888. Fel perchennog y tir tu hwnt ir strwythur yma osododd allan lleiniau am gilgant o bump a'r ugain adeilad. Y peiriannydd a gynlluniwyd y promenâd ar pedwar tai gyntaf oedd George Leedham Fuller. Yn anffodus, cafwyd problemau'r gaeaf cyntaf. Sgwriodd allan waelod y morglawdd ac roedd rhaid cloddio sylfeini dyfnach. Yn ystod stormydd bur seleri'r tai yn llifio a daeth yn amlwg roedd yr adeiladu mewn concrid ddim wedi cael ei atgyfnerthu digon. Roedd fath yma o adeiladu yn ei babandod. Cafodd dim mwy eu hadeiladu a phob gaeaf dirywiodd y tai a cawsant eu dymchwel ym 1925. Yn ddiweddarach, rhoddwyd y tir sy'n ffinio â'r promenâd i'r gymuned gan ferch Nanney-Ellis, Mrs Lewis.
Mae'n lle dymunol iawn i fynd am dro ac mae'n boblogaidd iawn gyda phreswylwyr ac ymwelwyr.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment