Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r ddogfen hon yn cynnwys trawsgrifiad llawn, cyfieithiad a nodiadau ymchwil ychwanegol ar gyfer llyfr nodiadau Margaret (Morris) Simcox James' 1863.
Mae'r llyfr nodiadau, sy'n gysylltiedig gyda Dowlais, Merthyr Tudful, yn cynnwys emynau wedi eu trawsgrifio, cerddi, nodiadau ar berthnasau teuluol ac amrywiol fyfyrdodau crefyddol. Er bod y llawysgrifen yn amrywio o ran arddull gan awgrymu bod mwy nag un person wedi cyfrannu at greu'r testun, credir mai Margaret ei hun oedd yn gyfrifol am ysgrifennu'r rhan fwyaf o'r cofnodion, ac iddi ddechrau gwneud hynny yn Nowlais pan oedd yn 13 mlwydd oed.

Cafodd y llyfr nodiadau gwreiddiol ei ddigido gan ei berchennog presennol yn Pittsburgh, UDA, gyda'r gwaith trawsgrifio yn cael ei wneud gan wirfoddolwr ar ran Casgliad y Werin Cymru yn Aberystwyth.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw