Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Peniarth Arms (Brigands Inn erbyn hyn) Mallwyd, ar ddechrau'r 1900au. Mae'r dafarn ar y groesffordd ym Mallwyd yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif ac wedi newid ei henw sawl gwaith. Tua 1900 yr oedd yn dal i gael ei hadnabod fel y Peniarth Arms, gan newid i Cross Foxes yn ddiweddarach, wedi ei gymryd o arfbais Peniarth. Wedi hynny newidiodd yr enw i The Bury. Roedd cryn dipyn o ddicter ymysg y bobl leol pan roddwyd yr enw presennol i'r dafarn, The Brigands Inn. Byddai'r fersiwn Gymraeg, Tafarn y Gwylliaid, wedi bod yn llawer gwell ganddynt. O gasgliad Gwyndaf Breese.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw