Soar-y-mynydd, y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru, 8 Medi 1955
Soar-y-mynydd, y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru, 8 Medi 1955
Disgrifiadau
Tynnwyd y ffotograff gan Geoff Charles.
Efallai mai Soar-y-mynydd (capel sy'n perthyn i'r Methodistiaid Calfinaidd), yw'r capel mwyaf anghysbell yng Nghymru. Mae'r capel wedi ei leoli ar lan Afon Camddwr ar y ffordd o Dregaron i Lyn Brianne. Adeiladwyd y capel yn y 1820au gan Ebenezer Richards - gweinidog yn Nhregaron ar y pryd a thad yr enwog Henry Richard (1812-88) - a'i ymddiriedolwyr. Cynllun traddodiadol sydd i'r capel deulawr hwn gydag un mur llydan a phulpud wedi ei leoli rhwng y ddau ddrws ar y mur hwnnw. Roedd yr adeilad hefyd yn gartref i'r ysgol leol hyd y 1940au.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment