Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Gosodwyd y fainc goffa hon ym Mharc Polly, Abertawe fel rhan o brosiect grŵp Save Our Memorial Monument (SOMM), "Cofio'r Rhyfel Byd Cyntaf: Anrhydeddu cof am y 69 o Arwyr o Cilái fu farw". Derbyniodd SOMM grant o £3000 o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer eu prosiect.

Bydd llawer yn cofio am SOMM yn eu rôl fel grŵp SAS (Achub yr Holl Saint), a ymgyrchodd yn erbyn cau Eglwys yr Holl Saint yng Nghilfái. Yn anffodus, bu'n rhaid bwrw ymlaen i gau'r eglwys, a nod y prosiect hwn a ariennir gan y loteri yw codi ymwybyddiaeth o Gofeb y Rhyfel Byd Cyntaf, sydd bellach dan glo tu ôl i ddrysau caeedig. Nod hirdymor y grŵp yw ariannu'r gwaith o warchod ac adleoli'r gofeb, neu os nad yw hynny'n bosibl, i gomisiynu rhywun i greu un newydd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw