Dyddiadur David Jones (1808 - 1854), Gweinidog gyda'r Bedyddwyr a golygydd dyddiedig 1849
Disgrifiadau
Dyddiadur David Jones (1808 - 1854), Gweinidog gyda'r Bedyddwyr a golygydd, dyddiedig 1849
Fe'i ganed ym Mhen-rhiw-fach, Llanpumpsaint, 1808, mab Benjamin ac Esther Jones. Dechreuodd bregethu yng nghapel Ebenezer, Blaenafon, a chafodd ei dderbyn i Academi Y Fenni yn 20. Cafodd ei ordeinio'n weinidog ei fam eglwys yn 1832, ac ym mis Gorffennaf 1834 symudodd i gapel y Tabernacl, Caerdydd, lle'r arhosodd hyd ei farwolaeth ar 8 Tach 1854. Yn ystod ei weinidogaeth ym Mlaenafon priododd E. Thomas, Castell-nedd, a ganed dau o feibion iddynt. Fe'i penodwyd yn gyd-olygydd yr Ystorfa Weinidogaethol (ac yna Ystorfa y Bedyddwyr) ym 1838, a hefyd Y Bedyddiwr ym 1840. Cyhoeddodd Udgorn Jubili Cenhadiaeth y Bedyddwyr, 1844, a Y Drych Blynyddol, 1849. Cyfieithodd Cydymaith y Bibl (n.d.) fwy na thebyg o'r Saesneg gan E. Romeyn, Efrog Newydd, ac ym 1839 golygodd ail argraffiad o gyfrol Enoch Francis, Gair yn ei Bryd. Priodolir catecism boblogaidd iddo yn ogystal.
Ffynonellau:
R. Evans, Life and Times of the Rev. David Jones, Baptist Minister, Tabernacle, Cardiff. Also forty of his skeleton sermons, Llanelli, 1885.
Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru, ii, 73-5. Awdur: Benjamin George Owens, M.A., Aberystwyth. Dyddiad cyhoeddi: 1959
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment