Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.
Disgrifiad
Ffotograff mawr gwreiddiol 9" x 7" gynt yn eiddo i gymdeithas y wasg, gyda dyddiad y 24ain o Hydref 1935 arno. Rhoddir manylion llawn mewn taflen wedi ei theipio a'i chysylltu i gefn y llun. Yn ei hanfod, mae'n gofnod o heddweision Heddlu Morgannwg yn ymgymryd â'u dyletswyddau yn ystod streic yng Nglofa Taf Merthyr ger Bedlinog yn ne Cymru.
Gwelwyd anniddigrwydd gwleidyddol a chymdeithasol ar hyd a lled de Cymru yn ystod yr 1930'au. Sefydwyd y undeb y South Wales Miners’ Industrial Union (SWMIU) gan berchnogion y pyllau glo mewn ymgais i chwalu'r SWMF (South Wales Federation – the ‘Fed‘ ). Cyrhaeddodd yr anghydfod rhwng y ddau anterth yng Nglofa Taf Merthyr pan fu i lowyr 'aros i lawr' (SWMF) gymryd drosodd Taf Merthyr, cadernle undeb y SWMIU.
Ym mis Hydref 1935, bu digwyddiad pan ymosodwyd ar lowyr SWMF gan gefnogwyr SWMIU. Roedd teimladau mor gryf ar y ddwy ochr fel y bu i ferched a glowyr di-waith orymdeithio yn Nhaf Merthyr er mwyn cefnogi'r Ffederasiwn. Bu cythrwfl pan heriodd yr heddlu y dorf gynhenus gyda phastynau. Fel y gellid ei ddychmygu gyda gwrthdrawiadau o'r fath, dioddefodd yr heddlu ymosodiadau arnynt hwythau hefyd.
Casgliad: The Ross Mather Police Memorabilia of Wales Collection dyddiad 24ain o Hydref 1935 arno. Rhoddir manylion llawn mewn taflen wedi ei theipio a'i chysylltu i gefn y llun. Yn ei hanfod, mae'n gofnod o heddweision Heddlu Morgannwg yn ymgymryd â'u dyletswyddau yn ystod streic yng Nglofa Taf Merthyr ger Bedlinog yn ne Cymru.
Gwelwyd anniddigrwydd gwleidyddol a chymdeithasol ar hyd a lled de Cymru yn ystod yr 1930'au. Sefydwyd y undeb y South Wales Miners’ Industrial Union (SWMIU) gan berchnogion y pyllau glo mewn ymgais i chwalu'r South Wales Federation – SWMF - y ‘Fed‘ ). Cyrchoeddodd y croestynnu rhwng y ddwy undeb ei anterth yng Nglofa Taf Merthyr, pan fu i lowyr 'aros i lawr' (SWMF) gymryd drosodd glofa Taff Merthyr, cadarnle'r SWMIU.
Ym mis Hydref 1935, bu digwyddiad pan ymosodwyd ar lowyr SWMF gan gefnogwyr SWMIU. Roedd teimladau mor gryf ar y ddwy ochr fel y bu i ferched a glowyr di-waith orymdeithio yn Nhaf Merthyr er mwyn cefnogi'r Ffederasiwn. Bu cythrwfl pan heriodd yr heddlu y dorf gynhenus gyda phastynau. Fel y gellid ei ddychmygu gyda gwrthdrawiadau o'r fath, dioddefodd yr heddlu ymosodiadau arnynt hwythau hefyd.
Casgliad: The Ross Mather Police Memorabilia of Wales Collection
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw