Skip to main content

Marc, Zack a Matthew Chatfield - Cystadleuaeth Minecraft Eich Amgueddfa 2020 - Gwobr 1af

Disgrifiadau

Fe wnaeth Cystadleuaeth 'Minecraft Eich Amgueddfa’ wahodd disgyblion ysgol 6-11 oed i ddefnyddio eu dychymyg i adeiladu eu hamgueddfa ddelfrydol yn Minecraft. Cafodd y gystadleuaeth ei lansio gan Amgueddfa Cymru - National Museum Wales yn ystod cyfnod clo COVID-19, er mwyn annog creadigrwydd a sgiliau digidol tra oedd disgyblion yn dysgu o gartref.

Enillodd yr ymgais hon gan Marc, Zach a Matthew Chatfield o Ysgol Gynradd Casllwchwr wobr 1af wobr yn y categori 'Ymgais Grŵp'. Llongyfarchiadau Marc, Zach a Matthew!

Mwy am amgueddfa Marc, Zack a Matthew: Cydweithiodd y tri ohonynt i greu atgynhyrchiad o Amgueddfa Caerdydd gyda rhai newidiadau er mwyn gwneud y cynllun yn unigryw. Maent wrth eu bodd gyda Minecraft ac fe ddefnyddion nhw'r amgueddfa i ddangos y gwahanol flociau, 'mobs', anifeiliaid a chreaduriaid anarferol eraill sydd i'w cael yn y byd hwnnw, gan gynnwys rhai diweddariad Nether. Ychwanegodd pob plentyn ei syniadau ei hun at yr amgueddfa ac roedd y tri ohonynt wedi bod yn cyfrannu at ei llenwi gydag arddangosfeydd. Llais Marc sydd i'w glywed yn y fideo.

Owner:
Marc, Zack and Matthew Chatfield
Crëwr:
Marc, Zack and Matthew Chatfield
Gwybodaeth drwydded
Copyright Details:
2020
Eitem wedi’i llwytho:
13/10/2020
Gwelediadau:
549
Ffefrynnau:
0

More items with these tags

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment